A allai diflaniad Rhew’r Arctig fod yn arwydd o gyfnod arall o dywydd oer y gaeaf hwn?
“Ymddengys fel pe bai’r blanced o rew môr sy’n arnofio ar Fôr yr Arctig wedi cyrraedd ei arwynebedd isaf am y flwyddyn. Gostyngodd arwynebedd rhew môr yr Arctig i 4.33 miliwn o gilomedrau sgwâr (1.67 miliwn o filltiroedd sgwâr) ar 9 Medi 2011. Y lleiafswm eleni oedd yr ail i’r isaf yng nghofnod y lloeren, a gychwynnodd ym 1979,” (NSIDC), ac nid yw ond ychydig yn uwch na’r arwynebedd isaf, a gofnodwyd yn 2007.
Y Ganolfan Ddata Genedlaethol ar Eira a Rhew
Mae gwyddonwyr wedi canfod cyswllt rhwng y gaeafoedd oer, gwyn ym Mhrydain a rhew môr tawdd yn yr Arctig, ac wedi rhybuddio bod cyfnodau hir o dywydd rhewllyd yn debygol o ddigwydd yn amlach yn y blynyddoedd i ddod.
Eglura Tom Rippeth, sy'n Eigionegwr Ffisegol yn ysgol gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:
Ers ychydig flynyddoedd, rydym wedi gweld lleihad mawr ym maint y rhew môr sy’n arnofio ar Fôr yr Arctig. Mae’r lleihad yn arbennig o amlwg ar ddiwedd yr haf pegynol, pryd y mae’r gorchudd rhew môr yn cyrraedd ei isafbwynt blynyddol.
“Mae’r rhew yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr hinsawdd, am ei fod, i bob pwrpas, yn gweithredu fel drych, gan adlewyrchu pelydrau’r haul yn ôl i’r gofod. Mae hefyd yn gweithredu fel cap, yn insiwleiddio Môr yr Arctig rhag yr atmosffer. Yn absenoldeb rhew, mae pelydrau’r haul yn cynhesu’r dŵr, a’r dŵr cynnes yn gwresogi’r atmosffer uwchben.”
“Gan ddefnyddio modelau cyfrifiadurol cymhleth, mae gwyddonwyr wedi cael bod diflaniad y cap rhew dros y cefnfor yn caniatáu i wres y dŵr môr cymharol gynnes (0 gradd C) ddianc i’r atmosffer llawer oerach uwchben, gan greu ardal o bwysedd uchel wedi’i hamgylchynu gan wyntoedd sy’n symud yn ôl y cloc sy’n ysgubo i lawr o’r Arctig a thros ogledd Ewrop.”
“O ganlyniad, yma yn y DU, yn lle ein tywydd gaeafol arferol, lle ceir yn bennaf wyntoedd cynnes a gwlyb yn chwythu i mewn oddi ar yr Iwerydd, rydym yn cael gwyntoedd llawer oerach yn chwythu i mewn o’r Gogledd a’r Dwyrain.”
“Tua diwedd 2010, gwelsom yr arwynebedd isaf erioed o orchudd rhew môr yn Rhagfyr. Bu hyn yn ffynhonnell bwysig o wres i’r atmosffer. Arweiniodd hynny at y tywydd rhewllyd a ysgubodd trwy Brydain.”
“Er y gellir, ar yr olwg gyntaf, ddehongli’r gyfres ddiweddar o aeafoedd oer fel rhywbeth sy’n anghyson â’r syniad o blaned yn cynhesu, ymddangosant, mewn gwirionedd, fel pe baent yn deillio o gynhesu byd-eang.”
Blwyddyn | Ymestyniad lleiaf y rhew | Dyddiad | |
mewn miliynnau cilomedrau sgwar | mewn miliynnau miltir sgwar | ||
2007 | 4.17 | 1.61 | Medi 16 |
2008 | 4.55 | 1.76 | Medi 18 |
2009 | 5.10 | 1.97 | Medi 12 |
2010 | 4.60 | 1.78 | Medi 19 |
2011 | 4.33 | 1.67 | Medi 9 |
1979 hyd 2000 cyfartaledd | 6.71 | 2.59 | Medi 10 |
1979 hyd 2010 cyfartaledd | 6.29 | 2.43 | Medi 12 |
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2011