A fydd ffilm fud yn ennill Oscar?
Mae Dr Jonathan Ervine yn aelod staff academaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn arbenigwr ar ffilmiau Ffrangeg a sinema. Yma mae'n rhannu ei farn am y ffilm a enwebwyd am wobr Oscar, The Artist.
"Yn aml mae sinema Ffrangeg wedi cael ei hystyried yn wahanol iawn i sinema Hollywood, ac ar adegau mae wedi ceisio diffinio ei hun yn groes i sinema Americanaidd. Ond mae’r ffilm a enwebwyd am wobr Oscar eleni, The Artist, yn un ymhlith nifer o weithiau sy'n dangos diddordeb Ffrainc ym myd y sinema a gwneuthurwyr ffilmiau yn America. Mae hon yn duedd sy'n amlwg mewn gwaith gwahanol gyfarwyddwyr fel Jean Renoir, Jean-Luc Godard a Luc Besson.
"Mae ffilm ddu a gwyn, mud, Michel Hazanavicius, The Artist, wedi ei hail-ryddhau yn Ffrainc yn dilyn 10 enwebiad am Oscar. Cafodd ei darlledu’n wreiddiol ar sgriniau Ffrainc ym mis Hydref 2011. Ceir posteri ym Mharis, sy’n ei disgrifio fel ‘y ffilm sy'n hudo America' ac mae nifer fawr yn dal i fynd i’w gweld.
"Mae'n stori ffuglen yn seiliedig ar actor ffilm fud Americanaidd o'r enw George Valentin sy'n ceisio dod i delerau â dyfodiad 'talkies', ac mae hyn yn debyg iawn i ran bwysig o hanes sinema Ffrangeg. Roedd dyfodiad sinema sain wedi creu her fawr i sinema Ffrangeg ar adeg pan oedd ganddi enwogrwydd byd-eang. Mae The Artist yn wynebu her fawr hefyd os yw am ennill y wobr am y Ffilm Orau. Yr unig adeg y mae ffilm fud wedi ennill y Ffilm Orau oedd yn 1929, sef y tro cyntaf erioed i seremoni’r Oscars gael ei chynnal. Fodd bynnag, mae llwyddiant diweddar The Artist yn y Golden Globes a'r BAFTAS yn awgrymu y gallai Gwobrau'r Academi eleni fod yn noson i'w chofio i sinema Ffrangeg. "
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012