A Good Clean Heart yn dod i Fangor Wedi'i Pherfformiad Cyntaf yng Ngwyl Fringe Caeredin
Yn dilyn eu perfformiad cyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, daw Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru â drama ddoniol ac emosiynol Alun Saunders, enillydd Gwobr Theatr Cymru 2016 am Ddramodydd Gorau yn yr Iaith Saesneg, A Good Clean Heart, i Stiwdio Pontio, Bangor ar ddydd Mercher 5ed a dydd Iau 6ed o Hydref.
Cynhyrchwyd a pherfformiwyd A Good Clean Heart yn wreiddiol yn theatr-dafarn The Other Room yng Nghaerdydd, enillwyr gwobr The Stage am Theatr Fringe Orau, 2015. Mae hi’n stori deimladwy am ddau frawd a fagwyd gan wahanol deuluoedd, mewn ieithoedd gwahanol.
Wedi gwrthod pob awydd i wybod mwy am ei fywyd cynnar cyn iddo gael ei fabwysiadu, mae Hefin yn darganfod ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 18 oed nid yn unig fod ganddo frawd, ond hefyd na gafodd ei eni yng Nghymru. Mae Hefin yn penderfynu mynd i gwrdd â’i frawd mawr ‘newydd’, ac yn glanio mewn byd hollol estron, dim ond dwyawr i lawr yr M4.
Wedi’i chyfarwyddo gan Mared Swain, gydag uwchdeitlau yn Saesneg a Chymraeg, mae A Good Clean Heart yn gofyn a oes modd i gariad rhwng dau frawd a fagwyd mewn diwylliannau gwahanol oroesi’u gwahaniaethau.
Dywedodd y dramodydd Alun Saunders: “Roedd Mared a fi yng Ngwyl Fringe Caeredin 2015 pan benderfynon ni ffurfio cwmni a thrïo'n gorau glas i fynd â chynhyrchiad ein hunan yno'r flwyddyn ganlynol - sef eleni a nawr. O'r mowredd.
‘Dwi mor gyffrous â hippo yn y mwd ein bod ni wedi gallu sefydlu Neontopia fel cwmni newydd mor gyffrous (a hynny gydag un o'n ffrindiau gorau), ond hefyd ein bod ni wedi gallu rhoi cynhyrchiad ry'n ni mor browd ohoni o flaen cynulleidfaoedd rhyngwladol yng Nghaeredin cyn i ni deithio ledled Cymru.
'Naeth Mared a fi gwrdd ar gwrs Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 1998 - ry'n ni wedi bod yn ffrindiau agos ers hynny, ac wedi sefydlu perthynas weithiol hyderus a chadarn. 'Sgwennes i A Good Clean Heart yng nghanol cyfnod eithriadol o anodd tra'n mynd drwy'r broses mabwysiadu - dwi mor falch o ddweud 'mod i'n dad ar ddau o blant erbyn hyn sy'n fy ysbrydoli a llonni 'nghalon i bob dydd, a bod gen i ddrama neith, gobeithio, ysbrydoli eraill mewn ffordd debyg.”
Dywedodd Gyfarwyddwraig y ddrama, Mared Swain: “Pan lwyfannwyd A Good Clean Heart y llynedd yn The Other Room roedden ni wedi’n synnu gan yr ymateb cadarnhaol, gan feirniaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Roedd Alun a minnau wedi gweithio’n galed ar y cynhyrchiad gwreddiol, ac yn teimlo taw dim ond megis dechrau’r daith yr oedden ni gyda’r ddrama, a dyma ni nawr, ar y bennod nesaf, fel Neontopia, yn mynd â’n cynhyrchiad cyntaf erioed i Gaeredin ac ar daith genedlaethol - dy’n ni wir ddim yn hanner-gwneud pethau!
Ers y llynedd, mae llawer wedi newid yn ein bywydau. Ry’n ni wedi sefydlu Neontopia, ac rydyn ni’n wirioneddol wedi bachu ar y cyfle yma i ddatblygu’r ddrama. Mae’r cynhyrchiad yn teimlo’n wahanol iawn i’r llynedd, ac rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle, fel Cyfarwyddwr, i archwilio ymagwedd newydd at y ddrama (rhywbeth nad ydyn ni bob amser yn cael y cyfle i’w wneud fel artistiaid). Rwy’n hynod o gyffrous i rannu’r cynhyrchiad newydd hon gyda chynulleidfa ehangach yng Nghaeredin a ledled Cymru, a bron a thorri bol i weld beth fydd yr ymateb.”
Dywedodd Louise Miles-Crust, Pennaeth Rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o weithio ar y cyd â Neontopia ar A Good Clean Heart. Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant mawr yn The Other Room yng Nghaerdydd ac rydyn ni’n hapus iawn i gynulleidfa ehangach ei gweld yng Nghaeredin ac o amgylch Cymru.”
GWYBODAETH
A GOOD CLEAN HEART – NEONTOPIA A CHANOLFAN MILENIWM CYMRU
Stiwdio, Pontio, Bangor 5 a 6 Hyd, 7.30pm
Tocynnau: 01248 382828 / pontio.co.uk
Argymhellwyd ar gyfer 14+ oed.
Ysgrifennwr: Alun Saunders
Cyfarwyddwr: Mared Swain
Cynllun Set a Gwisgoedd: Carl Davies
Cynllun Fideo: Zakk Hein
Cynllun Goleuo: Elanor Higgins
Cynllun Sain: Dyfan Jones
Rheolwr y Cynhyrchiad: Glesni Price-Jones
Cast:
Hefin: James Ifan
Jay: Oliver Wellington
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2016