A yw menywod o'r diwedd wedi torri drwy'r nenfwd gwydr gwleidyddol?
Darlith gyhoeddus: From “What? A Woman?” to “What a Woman!”
A yw menywod o'r diwedd wedi torri drwy'r nenfwd gwydr gwleidyddol? A yw Hillary Clinton, Theresa May, Angela Merkel, Nicola Sturgeon a Leanne Wood yn symptomau o newid sylfaenol neu'n ddim ond gwyriadau mewn maes lle mae dynion yn tra-arglwyddiaethu'n barhaus? A all merched hefyd godi i'r brig mewn meysydd eraill, neu a ydynt yn brwydro yn nannedd anfanteision?
Mewn darlith ddadlennol, mae Dr Wendi Momen, sy'n arbenigwr rhyngwladol, yn edrych yn fanwl ar yr ystyriaethau ac yn tynnu sylw at ddylanwad syfrdanol y Cenhedloedd Unedig ar y sefyllfa gender ledled y byd. Cynhelir ei darlith gyhoeddus ddydd Mercher, 30 Tachwedd am 6.00pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. Mae croeso i bawb ddod. Noddir y ddarlith ar y cyd gan Brifysgol Bangor a changen Menai o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig.
Mae sefydliad y Cenhedloedd Unedig wedi cael ei feirniadu'n ddiweddar am benodi cymeriad Wonder Woman o'r llyfrau comig fel ei Lysgennad Anrhydeddus newydd i rymuso menywod a merched. Mae deiseb ar-lein yn dadlau nad yw Wonder Woman yn ddewis priodol, gan nodi bod corff y cymeriad yn: 'ddynes wen gyda bronnau mawr a mesurau amhosib, yn gwisgo dim ond siwt corff sgleiniog sy’n dangos y cluniau gyda motiff baner America a bŵts at y pengliniau - yn ymgorfforiad o ferch pin-up' Dywedodd beirniaid ei fod yn ‘sefyllfa siomedig nad oedd y Cenhedloedd Unedig yn gallu cael hyd i ddynes go iawn a fyddai'n gallu bod yn bencampwr i hawliau POB dynes o ran cydraddoldeb gender a brwydro i gael eu grymuso.'
Mae gan y darlithydd, Dr Wendi Momen radd BSc mewn Economeg a PhD mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o'r London School of Economics, lle mae'n Llywodraethwr, ac yn gweithio fel golygydd llyfrau. Derbyniodd MBE yn 2014 am wasanaeth i Endid y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cydraddoldeb rhyw a grymuso merched. Mae'n un o sylfaenwyr Advance, sy'n hyrwyddo cyfiawnder, addysg a rhoi grym i ferched.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2016