A yw pobol yn cael eu geni’n brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr?
A yw pobol yn cael eu geni’n brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr?
A yw pobl yn cael eu denu at yrfa mewn prynu oherwydd eu sgiliau neu eu tueddfryd? Pa nodwedd yw’r pwysicaf ar gyfer prynwr: deallusrwydd emosiynol neu IQ?
A yw llwyddo ym maes caffael yn golygu bod gennych amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu datblygu i fynd ymlaen, neu ai eich math o bersonoliaeth sy’n eich denu i’r proffesiwn oherwydd bod gennych y nodweddion priodol i lwyddo?
Bydd trawstoriad o brynwyr yn y sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 2 Mawrth i brofi’r gosodiad hwn gan ddefnyddio profion personoliaeth ysgafn ac offer proffilio cymhwysedd. Y nod yn y pen draw yw gwneud ymchwil, datblygu atebion ymarferol a darparu digwyddiadau hyfforddi i brynwyr a chyflenwyr bach er mwyn gwella’r profiad caffael.
"Rydym yn gobeithio y bydd cyfranogwyr yn dysgu rhywbeth amdanynt eu hunain a pham y maent yn gwneud eu math o waith. Trwy edrych ar beth yw bod yn brynwr, byddwn yn dangos pa alluoedd caffael hanfodol sydd eu hangen. Bydd hyn yn cyfrannu at ein gwaith ymchwil ac yn dylanwadu ar y pynciau a ddewisir ar gyfer gweithdai yn y dyfodol," eglurodd Kay Smith, Arbenigwr Caffael Cyhoeddus project ‘Ennill wrth Dendro’ Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, sydd hefyd yn cyfrannu at ddysgu’r pwnc yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol.
Meddai Kay: “Mae llawer o gyrsiau ar gael sy’n darparu hyfforddiant sgiliau traddodiadol. Roeddem ni eisiau dechrau yn y dechrau trwy ystyried pa fath o waith yw prynu, a'r math o berson sy’n cael ei ddenu at y proffesiwn neu sy’n llwyddo yn y maes.”
Mae angen mwy na sgiliau ‘caled’ traddodiadol gan fod angen sgiliau meddal hefyd. Caiff y sgiliau hyn eu hanwybyddu'n aml oherwydd bod y rôl wedi datblygu o fod yn ffordd o feddwl traddodiadol o gyfnewid i broffesiwn sydd â rôl strategol ym mhob sefydliad.
“Mae'r rôl strategol hon yn gofyn am bersbectif gwahanol. Mae prynu yn fwy o gelfyddyd na gwyddoniaeth, yn arbennig yn y sector cyhoeddus lle gellir dadlau mai dylanwadu yw’r sgil pwysicaf. O weithio yn y sector cyhoeddus, credaf fod deallusrwydd emosiynol yn aml cyn bwysiced ag IQ felly mae angen datblygu sgiliau meddal. Gobeithiaf y bydd y gweithdy cyntaf hwn a’r rhai eraill at y dyfodol yn delio â deallusrwydd emosiynol a mentora yn gyfle i wella’r sgiliau hyn.”
Meddai’r Athro Dermot Cahill, Arweinydd y Project Ennill wrth Dendro a Phennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor: “Gobeithio bydd y gweithdy hwn yn gyflwyniad difyr a llawn gwybodaeth i'r prosiect Ennill wrth Dendro ac yn ein helpu i ddatblygu syniadau ar gyfer fframwaith cymhwysedd caffael. Hon yw’r gyntaf mewn cyfres o weithdai rydym yn bwriadu eu datblygu ar gyfer prynwyr, i gyflawni nod ein project o gyfrannu at ddatblygiad tymor hir staff caffael ac i fod yn sail wybodaeth i’n hymchwil. Cynhelir cyfres gyfochrog o weithdai hefyd ar gyfer cyflenwyr bach yng Nghymru ac Iwerddon.”
Sefydlwyd y project Ennill wrth Dendro i wneud ymchwil, datblygu atebion ymarferol a darparu digwyddiadau hyfforddi i brynwyr a chyflenwyr bach er mwyn gwella caffael.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012