A yw rhaglenni natur yn ein twyllo i feddwl bod cyflwr ein planed yn iawn?
Mae ymchwil i raglenni byd natur diweddar y BBC a Netflix yn awgrymu, er bod y rhaglenni yn sôn fwyfwy am fygythiadau sy'n wynebu byd natur, nid ydynt yn aml yn dangos maint llawn y dinistr amgylcheddol a achosir gan bobl
Mae consensws gwyddonol cryf bod natur yn cael ei heffeithio'n ddifrifol gan bobl, bod cyfradd difodiant rhywogaethau yn cyflymu, a bod hyn yn cael effeithiau difrifol. Mae rhaglenni byd natur wedi cael eu beirniadu o bryd i’w gilydd am beidio â dangos i ba raddau y mae'r amgylchedd yn dioddef. Mae astudiaeth newydd wedi canfod, er bod rhaglenni byd natur poblogaidd diweddar yn trafod mwy o'r bygythiadau sy'n wynebu'r rhyfeddodau natur a bortreadir, mae byd natur yn dal i gael ei ddangos yn bennaf fel rhywbeth dilychwyn heb ei gyffwrdd, a gall hyn arwain at ddifaterwch ymysg gwylwyr.
Bu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caint, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Rhydychen yn dadansoddi Our Planet gan Netflix ochr yn ochr â Dynasties, Planet Earth II a Blue Planet II y BBC i weld pa mor aml y defnyddir geiriau sy'n sôn am fygythiadau amgylcheddol a llwyddiannau cadwraeth. Mae deunydd hyrwyddo ar gyfer y gyfres Netflix, Our Planet, yn tanlinellu eu bod yn canolbwyntio ar ddatgelu’r materion allweddol brys sy’n bygwth bodolaeth rhyfeddodau natur a bywyd gwyllt. Er bod y gyfres yn sôn mwy am fygythiadau (ac effeithiolrwydd posibl cadwraeth i ymdrin â'r bygythiadau hyn) na rhaglenni blaenorol y BBC a ddadansoddwyd, mae'r ymchwilwyr yn nodi bod y gyfres, yn weledol, yn debyg iawn i raglenni dogfen y BBC. Ni ddangosir fawr ddim am sut mae cynefinoedd ar draws y byd yn cael eu trawsnewid yn gyflym a bod effaith pobl bron ym mhobman.
Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y gall rhaglenni o'r fath wneud i wylwyr feddwl bod bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell nag y mae mewn gwirionedd. Meddai'r Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor a’r awdur arweiniol, “Trwy ddefnyddio onglau camerâu i osgoi dangos pobl o gwbl, mae gwneuthurwyr ffilmiau natur yn bod yn glyfar iawn, a hyd yn oed yn camarwain cynulleidfaoedd yn gyson. Er enghraifft, er bod sylwebaeth Our Planet yn nodi bod coedwigoedd sych Madagascar dan fygythiad o gael eu llosgi, gwnaeth y golygyddion ymdrech fawr i osgoi dangos lluniau o'r llosgi cyflym a oedd yn digwydd pan oedd eu tîm yn y maes”.
Nid yw'r rhaglenni dogfen chwaith yn dangos y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd a ffilmiwyd neu sy'n ddibynnol ar yr ardaloedd hynny. Ychwanegodd Dr Niki Rust o Brifysgol Newcastle “Trwy fethu â dangos pobl neu bresenoldeb pobl yn yr amgylchedd, gall hyn arwain y gwylwyr i gredu y dylid gwahanu pobl oddi wrth weddill natur.” Dadl yr ymchwilwyr yw y gallai hyn arwain at anwybyddu anghenion pobl frodorol a phobl leol sy'n byw gyda bywyd gwyllt.
Mae'r ymchwilwyr yn cydnabod y gall dangos natur fel rhywbeth dilychwin fod yn bwysig i ennyn diddordeb y cyhoedd ac ysbrydoli cariad a hoffter o fyd natur. Dywedodd Dr Diogo Verissimo, o Brifysgol Rhydychen, “Nid oes llawer o dystiolaeth am y cysylltiadau achosol rhwng gwylio rhaglen ddogfen ac yna newid ymddygiad. Dylai cynhyrchwyr rhaglenni byd natur weithio gydag ymchwilwyr i gael gwell dealltwriaeth o'r effeithiau cadarnhaol a negyddol hyn”.
Meddai Laura Thomas-Walters, cyd-awdur yr astudiaeth o Brifysgol Caint “Mae'n rhaid i ni ddeall sut mae gwylio byd natur, wedi'i bortreadu fel rhywbeth sydd dan fygythiad neu'n ddilychwin mewn rhaglen ddogfen, yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd a allai, yn y pen draw, gyfrannu at ei achub.”
Dywedodd Jones wrth gloi,“Mae’n debyg bod llawer ohonom sy’n gweithio ym maes cadwraeth yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud oherwydd cawsom ein hysbrydoli gan raglenni dogfen anhygoel Syr David Attenborough pan oeddem yn blant. Ond efallai bod yr amser wedi dod pan y dylid bod yn fwy gonest ynglŷn â pha mor ddrwg yw pethau mewn sawl rhan o'r byd. Yr her yw - a fyddai galwad o'r fath yn arwain at fwy o waith cadwraeth neu a fyddai pobl yn cael eu diflasu? ”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019