A yw siwgr yn dda i ni, wedi’r cwbl?
A yw siwgr yn dda i ni, wedi’r cwbl?
Ydy, yn ôl barn y rhan a fu’n bresennol yn ysgol hyfforddi COST IB CARB ar gyfer Glyco-wyddoniaeth.
Yn ddiweddar, ymgasglodd arbenigwyr ym maes Glyco-wyddoniaeth o bob cwr o Ewrop i drafod gwyddor siwgr ym Mhrifysgol Bangor.
Beth yw Glyco-wyddoniaeth?
Gwyddor a thechnoleg carbohydradau (siwgrau) yw glyco-wyddoniaeth. Siwgrau yw’r moleciwlau biolegol mwyaf cyffredin ar y ddaear, ac maent yn rhan o fioleg yr holl organebau byw. Cydnabyddir glyco-wyddorau yn fyd-eang fel maes sy’n datblygu ac iddo bosibiliadau o gymwysiadau biolegol sylfaenol newydd a allai ddatrys amryw o’r sialensiau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni.
Pam y mae mor bwysig?
Fel yr eglura Dr Martina Lahmann o’r Ysgol Cemeg ym Mangor, “Caiff carbohydradau eu cynhyrchu o olau’r haul a charbon deuocsid gan blanhigion, algâu a rhai bacteria ffotosynthetig. Wedi’u creu gan ffotosynthesis, carbohydradau sy’n darparu’r biomas adnewyddadwy mwyaf ar y ddaear, a hwy yw’r dewis economaidd hyfyw a chynaliadwy amgen, yn hytrach nag adnoddau ffosil, ar gyfer ynni a deunyddiau crai. Carbohydradau yw’r biomas sy’n helpu i leihau olion traed carbon, fel y gall yr economi dyfu heb niweidio’r amgylchedd. Mae carbohydradau yn hanfodol i gael systemau biolegol i weithio. Er enghraifft, o’u gosod ar ochr allanol cellfur, gallant ymddwyn fel papur dal clêr, i sicrhau bod moleciwlau pwysig eraill yn “glynu” lle maent i fod, neu fel arwydd ar gyfer bio-foleciwlau eraill.” Yn yr Ysgol Cemeg y cynhelir ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn y maes cyffrous hwn; yno, mae cemegwyr yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio carbohydradau cymhleth (siwgrau) er lles dynolryw. Enghraifft ddiweddar yw datblygiad brechiad posibl a fyddai’n addas i ddiogelu oedolion a phlant ifanc iawn, ac ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio siwgrau penodol yn lle gwrthfiotigau.
Meddai Dr Lahmann, sy’n ymchwilio yn y maes hwn ac a oedd yn croesawu ysgol hyfforddi COST/IBCarb ym Mhrifysgol Bangor, “Gwych o beth oedd gweld cymaint o ymchwilwyr ifainc ysgogedig – a’r cyfan yn gweithio mewn ymchwil i garbohydradau – yn cyflwyno eu gwaith. Cawsom yr anrhydedd o gyflwyno Gwobr fawreddog RSC/Dextra Carbohydrate i Matt Gibson o Brifysgol Warwick. Mae ei greadigrwydd a’i frwdfrydedd yn ysbrydoli’r ymchwilwyr ifainc a’r rhai sefydledig, fel ei gilydd. Rhaid imi ddiolch i COST action 1102, yr IBCarb a’r RSC am ein galluogi i gynnal y digwyddiad hwn ym Mangor.”
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015