'Academi Rhagoriaeth' i Entrepreneuriaid Cymdeithasol yng Nghymru - Prifysgol Bangor yn lansio rhwydwaith dysgu ar gyfer busnesau gyda chydwybod gymdeithasol.
Mae’r “gorau o’r gorau” ym maes menter gymdeithasol ar fin dod yn well byth – caiff entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru ac Iwerddon fudd o gefnogaeth broffesiynol ehangach i’w helpu i ddatblygu’r sector fusnes bwysig hon sy’n aeddfedu.
Mae’r fenter dysgu, rhwydweithio a chefnogi hon, sydd wedi’i chynllunio i wella sgiliau mentergarwch, arloesi a chreadigrwydd entrepreneuriaid cymdeithasol, hefyd yn darparu’r rhaglen achrededig gyntaf o’i math i’w lansio yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae Menter Iontach Nua (MIN) yn cynnig gradd Feistr ym maes Rheolaeth Arloesi mewn Mentrau Cymdeithasol ynghyd â chyfres gynhwysfawr o gyfleoedd cefnogi mewn rhwydweithio, hyfforddi a mentora i entrepreneuriaid cymdeithasol, mudiadau datblygu cymunedol a chwmnïau gyda chylch gwaith Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Mae deg unigolyn yn cynrychioli ystod o fentrau a grwpiau cymdeithasol o bob cwr o Gymru eisoes wedi arwyddo ar gyfer y cwrs Gradd Feistr gyntaf. Maent yn mynychu dosbarth meistr a thrafodaeth banel yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor ar 27 Tachwedd. Y siaradwyr yw Mark Richardson, Cyfarwyddwr y prosiect ym Mhrifysgol Bangor; Ann Horan, Prif Weithredwr Academi Ryan Dulyn, a’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol. Bydd y panelwyr yn y digwyddiad yn cynnwys Iwan Trefor Jones o Gyngor Gwynedd, Clive Wolfendale o Cais, a Sharon Jones o Gwmni Cydweithredol Crest, Arweinydd y Flwyddyn Entrepreneuriaid Cymdeithasol Cymru 2011. Caiff cyfres o ddosbarthiadau meistr tebyg eu cynnig i entrepreneuriaid cymdeithasol o ddiwedd 2012 hyd at ddiwedd 2014.
Dywedodd yr Athro John G. Hughes:
“Mae mentrau cymdeithasol yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth am y cyfraniad y gallant ei wneud i greu swyddi yn y gymuned a’u potensial o ran cynorthwyo adferiad economaidd. Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu mewn cyrsiau fel hyn yn hanfodol yn y cyfnod presennol o ddirwasgiad ac rydym angen gweithlu medrus a gwybodus ar bob lefel o’r economi i sicrhau adferiad economaidd ac i’n cynorthwyo ni i ailadeiladu ein cystadleurwydd.”
Wrth siarad am y fenter, dywedodd Mark Richardson, Cyfarwyddwr y prosiect yn Ysgol Busnes Bangor a Chymrawd Arweiniad Cymdeithasol Clore, menter Sefydliad Clore Duffield:
"Nid oes gan y rhan fwyaf o entrepreneuriaid cymdeithasol unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn datblygu busnes; maent yn dysgu o’u camgymeriadau, a all fod yn broses faith, yn ddrud ac weithiau’n drawmatig. Bydd y wybodaeth a’r offer y gwnaiff yr entrepreneuriaid cymdeithasol hyn eu dysgu drwy’r rhaglen Feistr a’r dosbarthiadau meistr yn eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar effaith gymdeithasol eu mudiadau ar gymunedau yng Nghymru ac Iwerddon."
"Ein gweledigaeth o ran Menter Iontach Nua yw trawsnewid mentrau cymdeithasol yng Nghymru ac Iwerddon ac ysbrydoli entrepreneuriaid cymdeithasol a rhoi’r cyfarpar iddynt greu effaith gymdeithasol ar raddfa ymhell y tu hwnt i unrhyw beth maent wedi gallu ei gyflawni hyd yma. Bydd Menter Iontach Nua yn eu helpu i dyfu."
Dywedodd Victoria Burrows, myfyriwr Meistr a Dirprwy Reolwr DangerPoint, menter gymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau, a leolir yn sir y Fflint ac sy’n addysgu plant o bob cwr o’r Gogledd am bob agwedd o ddiogelwch:
“Fel un o’r 10 myfyriwr o Gymru sy’n rhan o MIN rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn. Bydd y ddwy flynedd nesaf yn her ond yn gyffrous a gallaf siarad drosom ni i gyd wrth ddweud ein bod yn edrych ymlaen at ehangu ein sgiliau a phrofiad a datblygu mudiadau yng Nghymru ymhellach i fod yn gynaliadwy drwy waith sy’n arloesol ac ar yr un pryd yn fentrus. ”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2012