Academydd o Fangor i deithio i Wlad Pwyl
Yr wythnos hon, bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith.
Mae dwy brifysgol yng Ngwlad Pwyl yn cynnig rhaglenni i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a llên Cymru. Ym Mhrifysgol Gatholig Lublin, yn ne-ddwyrain y wlad, dysgir y Gymraeg ers cyn cwymp Comiwnyddiaeth; yr ail sefydliad yw Prifysgol Adam Mickiewicz ym Mhoznan, yn y gorllewin. Bydd Dr Jones yn ymweld â’r ddwy brifysgol hyn.
“Mae’n bleser cael dychwelyd i Wlad Pwyl,” meddai Dr Jones, a dreuliodd bum mlynedd yn dysgu yn Lublin cyn iddo ddod i Fangor. “Mae bob tro’n werth cofio fod yr iaith Gymraeg yn iaith ryngwladol – mae’n cael ei siarad a’i hastudio ledled Ewrop, yn ogystal ag yn Asia, Awstralasia a chyfandiroedd America.
“Un o’r prif resymau ’rwy’n dod i Wlad Pwyl yr wythnos hon yw i ddatblygu cysylltiadau rhwng Bangor a’r sefydliadau yn Lublin a Phoznan sy’n dysgu Cymraeg. Rwy’n ddiolchgar i’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg am ddyfarnu imi grant a fydd yn fy nghynorthwyo i ddatblygu’r gwaith yma dros y flwyddyn sydd i ddod.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2012