Academydd o Fangor i gadeirio seminar ymchwil gyda phapur ar gyrff hyll a gwael yn Lady Gaga a thu hwnt
Cynhelir y seminar ‘Gender and Sexual Health: Literary, Historical, and Cultural Comparisons’ yng nghyfarfod blynyddol yr American Comparative Literature Association 29 Mawrth – 1 Ebrill eleni yn Brown University, UDA . Bydd Mattia Marino, Tiwtor Eidaleg a Hanes Ewropeaidd yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor, a Chymrawd ar Ymweliad yn Institute for Germanic and Romance Studies Prifysgol Llundain yn 2011, yn cadeirio un sesiwn yn y cyfarfod hwn. Bryd hynny bydd yn cyflwyno papur arloesol ar gyrff gwael a hyll gan ymdrin â'r perfformiwr pop Eidalaidd Americanaidd, Lady Gaga, ac eraill.
Mae ei ymchwil yn dangos am y tro cyntaf y cysylltiadau rhwng delweddau o gyrff gwael a hyll mewn llenyddiaeth Ewropeaidd ddiweddar a fideos cerddoriaeth Americanaidd. Mae’r gwaith hwn yn ddilyniant i’w ymwneud diweddar â phroject ar ffilmiau gwleidyddol Eidalaidd, a gyllidwyd ar y cyd gan Gynghorau Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn Awstralia a Phrydain. Trefnodd y seminar yn Brown University gyda’r Athro William Spurlin (Brunel University) a Tegan Zimmermann (University of Alberta). Bydd y seminar yn cynnwys papurau ar gomics sy’n hyrwyddo rhyw diogel, tatŵs satanaidd eu naws, a straeon gwerin Tsieineaidd ar wyrdroadau rhywiol.
Yn ei waith ymchwil mae’n ymdrin ag ystyr newydd i ffieidd-dra, gan ddadlau nad yw defnyddio cyrff hagr yn ei hanfod yn gwahaniaethu yn erbyn pobl â chyrff gwahanol i’r rhelyw, ond yn hytrach y gellir eu defnyddio fel cyfrwng i ryddhau’r anabl, merched, teuluoedd a phobl o dueddiadau rhywiol a esgymunir, a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r dulliau a ddefnyddir ganddo yn cynnwys dadansoddi diwylliannol a chymharu gweithiau celf drwy theori gymdeithasol a thystiolaeth hanesyddol.
Meddai Mattia Marino: “Mae’r seminar yn dangos ffyrdd o roi ystyr i gyrff sy’n cael eu hystyried yn gywilyddus yn foesol a meddygol. Rhoddir sylw sylweddol i faterion iechyd a chymdeithasol-wleidyddol.
Mae ei ymchwil yn ymdrin â'r modd yr ymdrinnir â’r cysyniad o ffieidd-dra mewn rhai nofelau Ffrangeg, Eidalaidd ac Almaeneg, a fideos cerddoriaeth Americanaidd. Mae pobl gyffredin yn uniaethu ag apêl Lady Gaga ac eraill at amrywiaeth ac mae ei ymchwil yn dangos cysylltiadau hanesyddol, cymdeithasol a llenyddol sy'n ein galluogi i ddeall yn ehangach ei gwaith hi, a gweithiau eraill, sy'n rhoi sylw i gyrff gwael a hyll.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012