Academydd o Fangor yn ennill Gwobr Ben Jonson
Mae'r Athro Andrew Hiscock o Brifysgol Bangor yn un o dri academydd rhyngwladol i dderbyn Gwobr Ben Jonson eleni.
Enillodd Andrew, o Ysgol Llenyddiaeth Saesneg y Brifysgol, y Ben Jonson Discovery Award am ei erthygl ymchwil “‘O, Tom Thumb! Tom Thumb! Wherefore art thou Tom Thumb?’: Early Modern Drama and the Eighteenth-century Writer – Henry Fielding and Fanny Burney”.
Mae erthygl Andrew, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y Ben Jonson Journal, yn ymdrin â'r newidiadau mewn agweddau at Shakespeare a'i gyd ddramodwyr bron ganrif ar ôl eu marwolaeth yn newyddiaduraeth, drama, dyddiaduron a gohebiaeth breifat dau o brif ffigurau llenyddol y ddeunawfed ganrif, Henry Fielding a Fanny Burney. Fielding mae'n debyg yw'r enwocaf erbyn hyn ymysg darllenwyr (a chynulleidfaoedd addasiadau teledu a sinema) ar sail ei nofel adnabyddus, Tom Jones, tra cofir Burney fel awdur y nofel garu fentrus, Evelina, a achosodd gryn stŵr ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac a gafodd ddylanwad mawr ar y Jane Austen ifanc. Yn wir gwnaeth gymaint o argraff ar Austen fel y tanysgrifiodd am nofelau dilynol Burney.
Disgrifiodd Andrew sut yr aeth ati i ymchwilio i'r maes hwn: "Daeth yn amlwg yn fuan bod yna faes cyfoethog i ymchwilio iddo yma. O ystyried bod Fielding wedi byw drwy hanner cyntaf y ganrif a bod Burney yn ddyflwydd pan fu Fielding farw yn 1754 ac iddi hithau farw mewn oedran teg yn 1840, mae ymchwil i fywydau a gweithiau'r ddau ffigwr adnabyddus yma'n datgelu cyfoeth o ddeunyddiau ar arferion mynd i'r theatr, y dirywiad cyflym mewn gwybodaeth am Loegr oes Elisabeth, a chreu bardd cenedlaethol wrth i'r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen. Cyflwynwyd yr ymchwil hon yn wreiddiol mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Montpellier mewn anerchiad i Gynhadledd Flynyddol Astudiaethau'r Dadeni yn 2011, a noddwyd gan y Society for Renaissance Studies a'r Université Paul Valéry. Mae wedi bod yn brofiad gwych cwblhau'r project yma a derbyn y wobr yma i gydnabod y gwaith."
Cyfnodolyn a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn ac a adolygir gan gydweithwyr yw'r Ben Jonson Journal ac mae wedi'i neilltuo i astudio Ben Jonson a'r diwylliant lle ffynnai ei ymdrechion llenyddol niferus. Mae'n cynnwys erthyglau ar farddoniaeth, y theatr, beirniadaeth, crefydd, y gyfraith, y llys, y cwricwlwm, meddygaeth, masnach, y ddinas a bywyd teuluol. Mae'r Ben Jonson Journal yn rhoi tair gwobr lenyddol am yr erthyglau gorau yng nghyfrol pob blwyddyn, a derbyniodd Andrew'r wobr o $500 am y "Ben Jonson Discoveries Award". Enillwyr y ddwy wobr arall yn 2014 oedd Brian Vickers, ‘Ben Jonson’s Classicism Revisited’ (Beverly Rogers Literary Award) a David Loewenstein, ‘ Paradise Lost and Political Image Wars’ (Ben Jonson Discoveries Award).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2014