Academydd o Fangor yn ennill gwobr gyhoeddi AHGBI-Llysgenhadaeth Sbaen 2012
Mae Dr David Miranda-Barreiro, darlithydd astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, wedi ennill y wobr gyhoeddi gyntaf am y traethawd ymchwil gorau ym maes astudiaethau Sbaenaidd a Brasilaidd-Portiwgalaidd gan unrhyw brifysgol yn y DU ac Iwerddon. Rhoddir y wobr gan yr "Association of Hispanists of Great Britain and Ireland" (AHGBI) ar y cyd â Llysgenhadaeth Sbaen, ac mae'n cynnwys cael cyhoeddi'r traethawd ymchwil gan gyhoeddwr academaidd o fri, Legenda, fel rhan o'i gyfres newydd ‘Studies in Hispanic and Lusophone Cultures’.
Mae traethawd ymchwil Dr David Miranda-Barreiro, a oruchwylwyd gan Dr Helena Miguélez-Carballeira, yn edrych ar naratifau Sbaeneg o Efrog Newydd yn ystod y 1930au a'u perthynas â chwestiynau'n ymwneud â hunaniaeth genedlaethol Sbaenaidd, gender, ethnigrwydd a rhywioldeb. Yn ôl yr Athro Trevor Dadson, Llywydd AHGBI, bydd traethawd ymchwil Dr Miranda-Barreiro yn addas iawn i gyfres newydd Legenda ym maes diwylliannau Sbaenaidd a Phortiwgalaidd. Disgwylir i'r gweithiau cyntaf yn y gyfres ymddangos yn 2014.
Cyhoeddir gwobr gyhoeddi gyntaf AHGBI yn swyddogol yng nghynhadledd flynyddol y gymdeithas a gynhelir rhwng 25 a 27 Mawrth ym Mhrifysgol Rhydychen, lle bydd Dr Miranda-Barreiro yn cyflwyno papur ar un o'i brojectau ymchwil ar lyfrau comics Galisieg.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2013