Academyddion Bangor yn mynd â thoriadau S4C i'r Cenhedloedd Unedig
Gall toriadau i gyllideb S4C ddiystyru hawliau plant, yn ôl dau ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Dr Alison Mawhinney a Ms Carys Aaron o Ysgol y Gyfraith Bangor yn dadlau y gall y cwtogi a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyllideb S4C dros y pum mlynedd diwethaf fod yn groes i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy'n cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan gyfryngau torfol o ran caniatáu i blant fwynhau eu hawliau ac o ran datblygu parch at 'hunaniaeth ddiwylliannol, iaith a diwylliant' y plentyn.
Dywedant fod yr hawliau sylfaenol a effeithir arnynt gan y toriadau yn cynnwys hawl plant i gael gwybodaeth a deunydd yn eu mamiaith sydd 'o fudd cymdeithasol a diwylliannol' iddynt; a'r hawl i 'geisio, derbyn a rhannu gwybodaeth a syniadau o bob math' trwy gyfryngau 'o ddewis y plentyn'.
Mae cyfreithwyr Bangor yn honni y gall Llywodraeth y DU, trwy dorri'n sylweddol ar gyllid S4C, dramgwyddo'n erbyn y Confensiwn mewn dwy ffordd: yn gyntaf, trwy gyfyngu ar ehangder ac ansawdd rhaglenni cyfrwng Cymraeg i blant; ac yn ail, trwy gyfyngu ar allu S4C i gynnig ei gynnwys a'i wasanaethau ar draws ystod eang o gyfryngau gwahanol.
Byrdwn ei dadl yw fod S4C yn chwarae rôl hollbwysig yn sicrhau bod plant sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt yn gallu mwynhau'r hawliau a sicrhawyd iddynt gan y Cenhedloedd Unedig. Os na chyllidir S4C yn ddigonol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni'r rôl hon, dadleuant, yna mae'r Deyrnas Unedig ei hun yn torri ei dyletswyddau i amddiffyn hawliau plant Cymru o dan y Confensiwn.
"Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod y rôl allweddol a chwaraeir gan S4C - fel yr unig ddarparwr yn unman o raglenni iaith Gymraeg i blant – o ran parchu, hyrwyddo, amddiffyn a chyflawni hawliau plant yng Nghymru a thu hwnt yng nghyswllt Erthyglau 13, 17 a 29 y Confensiwn", esboniodd Dr Alison Mawhinney, Darllenydd yn y Gyfraith.
Yr wythnos hon, bu Dr Mawhinney a Ms Aaron yng Ngenefa, lle mae Llywodraeth y DU yn ymddangos o flaen Pwyllgor Hawliau’r Plentyn y Cenhedloedd Unedig i adrodd ar sut y bu’n gweithredu hawliau'r Confensiwn dros y bum mlynedd ddiwethaf - gofyniad safonol i Wladwriaeth sy'n barti i'r Confensiwn.
Yn ystod deuddydd o drafod dwys, holwyd y Llywodraeth gan y Pwyllgor ar berfformiad y Deyrnas Unedig o dan y Confensiwn. Yn benodol, ar sail cyflwyniad Bangor, mynegodd y Pwyllgor ei bryder ynghylch sut roedd toriadau yng nghyllideb S4C dros y pum mlynedd diwethaf wedi effeithio'n negyddol ar hawl plant Cymru i ryddid mynegiant a'u rhyddid i gael gwybodaeth yn eu hiaith eu hunain. Gofynnodd y Pwyllgor sut, yn y dyfodol, gall y Llywodraeth sicrhau bod rhaglenni plant o ansawdd uchel ar gael ar S4C, yn unol â hawliau plant Cymru o dan y Confensiwn.
Mae'r Pwyllgor nawr yn barod i roi ystyriaeth i’r mater yma ynghyd â materion eraill a godwyd dan y Confensiwn, a disgwylir iddo gyhoeddi ei argymhellion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016