Academyddion Prifysgol Bangor yn cael eu hanrhydeddu gan Academi Cymru
Mae tri o academyddion Prifysgol Bangor ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Maen nhw’n ymuno â 40 o Gymrodyr newydd eraill, sydd oll yn rhannu cyswllt â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob arbenigedd.
Y Cymrodyr newydd o Brifysgol Bangor yw:
· Yr Athro Nathan Abrams FRHistS FHEA, Athro Astudiaethau Ffilm
· Yr Athro Emeritws Peter Field, Athro Emeritws, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth
· Dr Sue Niebrzydowski, Darllenydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.
Bellach mae gan Gymrodoriaeth y Gymdeithas 562 o aelodau. Mae eu harbenigedd cyfunol yn galluogi’r Gymdeithas i gryfhau ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru, drwy ei chyfraniadau o ran datblygu polisi, cynnal darlithoedd a seminarau cyhoeddus a’i rhaglen Astudiaethau Cymreig sy’n ehangu.
Caiff y Cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir o bell eleni oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ar 20 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020