Academyddion ym Mangor yn denu grantiau o’r Academi Brydeinig
Bydd canlyniadau anfwriadol y camau gorfodi i reoleiddio banciau yn cael eu craffu mewn astudiaeth newydd gan Ysgol Busnes Bangor. Mae Dr Danny McGowan a’r Athro Klaus Schaeck wedi cael grant o £10,000 gan yr Academi Brydeinig i weld a yw’r rheoliadau sy’n gorfodi banciau i roi trefn ar eu gweithgareddau yn cael canlyniadau anfwriadol ar ddefnyddwyr a chwmnïau.
Dywedodd Dr McGowan mewn cyfweliad, “Yn ystod yr argyfwng ariannol diweddar cymrwyd camau sylweddol gan lywodraethau a rheoleiddwyr i orfodi banciau i roi trefn ar eu taenlenni. Yr enghraifft fwyaf eithafol oedd gwladoli Northern Rock ond roedd gorfodi’r uniad rhwng Lloyds-HBOS yn enghraifft nodedig arall”. Er mai bwriad yr ymyriadau hyn oedd adfer sefydlogrwydd mewn banciau oedd wedi mynd yn rhy agored i'r farchnad forgeisi credyd gwael, un o’r canlyniadau oedd bod y banciau wedi rhoi’r gorau i fenthyca i ddefnyddwyr ac entrepreneuriaid.
Bydd academyddion Bangor yn ystyried yn eu hymchwil a yw sgil effeithiau rheoleiddio'r banciau yn cynnwys cyfangu ar gyfradd twf economaidd a gostyngiad ym maint entrepreneuriaeth. Yn aml nid oes gan ddefnyddwyr a chwmnïau ddigon o gyllid eu hunain ac felly maent yn ddibynnol iawn ar fanciau i gael cyllid buddsoddi a dechrau busnesau. Mae’n bwysig astudio'r cyswllt hwn gan ei fod yn gofyn cwestiynau pwysig i lunwyr polisïau: trwy gymryd camau i achub banciau gallant niweidio sectorau eraill o’r economi. Mae’r ymchwil yn mynd i’r afael â chwestiwn allweddol sef deall beth yw maint yr effeithiau hyn ac a fyddant yn parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012