Achrediad safon aur i archifau’r Brifysgol
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi ennill yr hyn a ystyrir y ‘safon aur’ o ran achredu rheolaeth archifau.
Roedd Archifau’r Brifysgol ymysg 11 o geisiadau newydd a lwyddodd i gael Achrediad Cenedlaethol Archifau, i ddod yn un o 62 gwasanaeth archifau sydd wedi eu hachredu yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Elen Simpson, Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol:
“Roeddem yn awyddus i gyrraedd safon yr achrediad gan ei fod yn diffinio ymarfer dda mewn gwasanaethau archifau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r achrediad hefyd yn ein galluogi i gymryd rhan mewn cynllun sydd yn cefnogi datblygiad ein gwasanaethau i’r dyfodol yn erbyn safon y cytunwyd arni’n genedlaethol.”
Meddai Sue Hodges, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau, Prifysgol Bangor:
“Rydym wrth ein boddau bod ein Harchifau wedi ennill y fath gydnabyddiaeth am safon uchel y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, drwy ddiogelu ein treftadaeth a thrwy sicrhau bod y cyhoedd, myfyrwyr ac ymchwilwyr yn cael mynediad at gyfoeth y dogfennau sydd o fewn archifau’r brifysgol. Mae’r achrediad yn rhan o’n strategaeth i ymestyn a datblygu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gwrdd ag anghenion ein defnyddwyr. Llongyfarchiadau gwresog i’r Tîm Archifau sydd wedi gweithio’n galed iawn i gael yr achrediad”
Mae’r Parch Ddoethur Dafydd Wyn Wiliam wedi bod yn un o ddarllenwyr selocaf yr Archifdy ers dros hanner canrif, ac meddai:
“Llongyfarchiadau mawr i’r archifdy ar dderbyn yr achrediad yma. Dwi wedi treulio oriau lawer yn pori drwy’r adnoddau sydd ganddynt ac yn sicr mae’r adran yn gaffaeliad mawr i’r brifysgol. Yr archifdy sy’n gwneud y brifysgol yn sefydliad unigryw i astudio ynddo.”
Dywedodd Gareth Evans-Jones, myfyriwr ôl-radd yn yr Ysgol Athroniaeth a Chrefydd:
“Haedda’r staff y gydnabyddiaeth loyw a roddwyd iddynt yn ddiweddar am eu gwasanaeth tra effeithiol yn gofalu am y casgliadau archifol unigryw sydd yn eu gofal, ac am y modd y maent yn cyflwyno’r holl ddefnyddiau i bawb a ddaw ar eu gofyn. Clod haeddiannol yn wir.”
Ymysg yr archifau eraill oedd yn derbyn yr achrediad roedd yr Imperial War Museums, y National Meteorological Library and Archive a’r Victoria and Albert Museum
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017