Achredu Gradd Daearyddiaeth BSc
Mae’n bleser gan ADNODD gyhoeddi bod ei gradd BSc Daearyddiaeth wedi ei hachredu gan Bwyllgor Penaethiaid Gwyddorau Amgylcheddol, sy’n rhan o’r Sefydliad Gwyddorau Amgylcheddol (IES).
Trwy achredu'r radd Daearyddiaeth BSc, mae ADNODD wedi dangos bod y radd yn cynnig cyfleoedd i addysgu a dysgu mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, yn y maes ac yn y labordy, a bod myfyrwyr yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol a dan gyfarwyddyd tiwtoriaid. Ymhellach, mae achredu’r radd BSc Daearyddiaeth yn dangos bod myfyrwyr yn gallu datblygu ymarfer proffesiynol trwy eu hastudiaethau gradd; gan gynnwys y cyfle i wneud lleoliadau gwaith, cynllunio a rheoli projectau a rheoli gyrfa.
Mae myfyrwyr sydd yn cofrestru ar y cwrs wedi ei achredu yn ennill hawl awtomatig i gael Aelodaeth Myfyriwr o IES . Mae Aelodaeth Myfyriwr yn cynnig llu o fanteision yn ogystal â’r cyfle i weithio gyda sefydliad proffesiynol blaenllaw. Ar ben hynny, ar ôl graddio, bydd myfyrwyr hefyd yn gymwys yn awtomatig i fod yn Aelodau Cyswllt o’r IES ac yn derbyn tystysgrif gan IES i'r perwyl hwn. Gall graddedigion ennill achrediad pellach gan IES wrth iddynt symud ymlaen yn eu gyrfa.
Ar ôl clywed am yr achrediad meddai Dr Graham Bird, Cyfarwyddwr y Cwrs BSc Daearyddiaeth, “rydym wrth ein bodd bod ansawdd ein gradd BSc Daearyddiaeth yn cael ei gydnabod trwy achrediad IES. Mae myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y BSc Daearyddiaeth ym Mangor yn dysgu am eu pwnc a hefyd yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy’n golygu y bydd yn haws iddynt gael swydd ar ôl graddio. Ar ben hynny, maent yn astudio yn un o’r lleoliadau yn y Deyrnas a gallant fanteisio i’r eithaf ar hyn trwy ystod eang o weithgareddau maes.
Mae’r radd BSc Daearyddiaeth yn ymuno â nifer o raddau eraill ADNODD sydd wedi eu hachredu gan IES. I gael rhagor o wybodaeth am y radd BSC mewn Daearyddiaeth (ac eraill) ewch i: www.bangor.ac.uk/senrgy.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2012