Acolâd pellach i fardd nodedig
Mae Carol Rumens, Athro Ysgrifennu Creadigolyn yr Ysgol Ieithoedd, llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth wedi ennill gwobr Michael Marks am y bamffled orau o farddoniaeth a gyhoeddwyd rhwng Medi 2017 a Medi 2018. Dyfarnwyd y Wobr ar gyfer Bezdelki/Small Things a lansiwyd yn Pontio yn y gwanwyn.
Yn cael ei chynnal gan Ymddiriedolaeth Wordsworth, mae’r wobr yn cynnwys cyfnod preswyl yng Ngwlad Groeg y gwanwyn nesaf, a hynny yng Nghanolfan Astudiaethau Helenaidd Prifysgol Harvard.
Meddai’r Athro Rumens, wedi iddi dderbyn y wobr:
“Roeddwn wedi fy syfrdanu pan glywais fy enw’n cael ei adrodd, yn anghrediniol hyd yn oed. Mae’n eich annog ac mae beirdd angen anogaeth ar bob cam o’u bywyd fel ysgrifenwyr, gyda phobl hŷn fel fi prin yn llai na dechreuwyr rhonc.
Dydw i ddim yn sicr eto beth yn union sydd ynghlwm â’r cyfnod preswyl, ond dywedodd cyn-enillydd, a roddodd darlleniad yn y seremoni Gwobrwyo, ei fod yn brofiad bythgofiadwy: roedd hi wedi ei hamgylchynu gan bobl oedd yn caru barddoniaeth ac eisio trafod y grefft yn ddi-baid. Rwy’n gobeithio dysgu rhywbeth am farddoniaeth gyfoes Roegaidd, ac efallai cael amser i ysgrifennu. Rwy’n edrych ymlaen at y profiad yn fawr, ac yn gobeithio y caf ddod â syniadau ffres i rannu efo’r beirdd-fyfyrwyr yn fy seminarau.”
Cafodd Bezdelki/Small Things ei gyhoeddi er cof am bartner Carol, sef Yuri Drobyshev o Rwsia. Cyhoeddwyd y bamffled gan The Emma Press, a oedd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori 'cyhoeddwr pamffledi gorau'.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018