Addysg gwyddoniaeth yng Nghymru a’r goblygiadau ar gyfer economi Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn dod a’r ŵyl wyddoniaeth bwysig hon, a fydd yn para am wythnos gyfan, i’r ddinas. Cynhelir digwyddiadau a fydd yn apelio at bobol o bob oedran a diddordeb. Bydd yr ŵyl, a gynhelir rhwng 11-20 Mawrth 2011, yn agor gyda Thrafodaeth Banel ar addysg gwyddoniaeth yng Nghymru.
A ydym yn cynhyrchu’r wyddoniaeth a’r gwyddonwyr y mae arnom eu hangen i gynllunio ar gyfer dyfodol Cymru? Sut all gwyddoniaeth ein cynorthwyo i ymateb i sialensiau sy’n wynebu Cymru heddiw ac yn y dyfodol? A all gwyddoniaeth helpu economi Cymru i dyfu? A ydym yn rhoi sylw priodol i’r materion hyn? A ydym yn manteisio’n llawn ar y wybodaeth wyddonol sydd eisoes ar gael i ni? Sut allem ni annog mwy o bobol ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a chael eu hysbrydoli ganddi?
Beth yw eich barn chi?
Gall y cyhoedd, disgyblion ysgol a myfyrwyr ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr mewn Trafodaeth Banel ar Wyddoniaeth ac Addysg a gynhelir am 12.00 ddydd Gwener 11 Mawrth yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol.
Ni chodir tâl mynediad ond gofynnir i chi archebu eich lle ar-lein. Gellwch anfon eich cwestiynau ar-lein hefyd drwy’r wefan:
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth banel bydd John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, Yr Athro Terry Hewitt, Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor ac arbenigwr ar gyfrifiaduro gwyddonol, Yr Athro Sian Hope, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, Dr James Ingram, sydd wedi graddio o Fangor ac yn ymgynghorydd i’r diwydiant ynni adnewyddadwy a Mr John Idris-Jones, Pennaeth Economeg-Gymdeithasol yn Magnox North.
Mae digwyddiadau eraill yn ystod yr Ŵyl Gwyddoniaeth yn cynnwys teithiau cerdded gydag arweinydd, sgyrsiau, ‘Gwyddoniaeth Wyllt’ gyda Iolo Williams yng Ngardd Botaneg Treborth a dyddiau Eco-wyddoniaeth i ysgolion - mae pob digwyddiad cyhoeddus am ddim- cofrestrwch i archebu eich lle drwy’r wefan:http://www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival/index.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011