Addysgwr sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn addysg uwch yn derbyn gwobr bwysig
Mae Dr Charles Buckley o Brifysgol Bangor wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Hon yw’r wobr bwysicaf am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch. Dyma’r tro cyntaf i aelod staff o Brifysgol Bangor dderbyn gwobr o’r fath.
Mae Dr Buckley o'r Uned Datblygu Academaidd yn Ysgol Addysg y Brifysgol ymysg 55 o ddarlithwyr a staff cefnogi dysgu a ddewiswyd gan yr Academi Addysg Uwch (HEA) o blith dros 180 o enwebiadau a gyflwynwyd gan sefydliadau addysg uwch ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae wedi derbyn y wobr o £10,000, y gall ei defnyddio ar gyfer ei ddatblygiad proffesiynol.
Mae Dr Buckley’n gweithio’n agos â chydweithwyr yn Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi staff ym Mangor, ac mewn sefydliadau addysg uwch eraill ar draws Cymru, i astudio drwy’r iaith o’u dewis.
Canmolwyd Charles am ei waith ar gynhwysedd, ymchwil i lawer agwedd ar addysgu a dysgu mewn addysg uwch, gwella ansawdd a chefnogi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo cyfrwng Cymraeg ymysg staff sy’n gwneud y Dystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Uwch (PGCertHE).
Dywedodd Mr Eifion Lloyd Jones, Ymgynghorydd Datblygu Staff yn Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bod gwaith arloesol Charles Buckley ym Mangor wedi bod yn ysgogiad i brifysgolion eraill ddilyn llwybr cyffelyb. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hynod ddiolchgar am ei weledigaeth a’i ddyfalbarhad.
Dylanwadwyd ar ddull Dr Buckley o ymdrin ag addysgu a dysgu gan ei gefndir gyrfa amrywiol, sy’n cynnwys gweithio fel plismon, cynrychiolydd gwyliau ac athro ysgol gynradd. Mae’r cefndir hwn wedi’i alluogi i ymwneud yn rhwydd â phobl ac mae’n rhoi arweiniad ar ddatblygu cynhwysedd ym mhob agwedd ar addysgu. Yn ogystal â chydweithio’n agos â chydweithwyr yn Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae ganddo brofiad helaeth iawn o weithio â myfyrwyr rhyngwladol ac mae’n defnyddio sawl dull o ddod ag ymchwil i mewn i addysgu. Mae nawr yn ymuno â chymuned genedlaethol a’r Association of National Teaching Fellows, sy’n hyrwyddo rhwydweithio a meithrin dulliau gweithredu arloesol.
Gyda chefndir mewn dysgu a chystadlu mewn chwaraeon, mae Dr Buckley’n deall pwysigrwydd gweithio gyda thimau ac mae wedi cefnogi model cydweithredu unigryw i’r cymhwyster PGCertHE ym Mangor, sy’n gweithredu â phedair prifysgol arall ar draws Cymru.
Cyllidir y cynllun gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac Adran Cyflogaeth a Dysgu Gogledd Iwerddon, ac mae'n agored i staff sy’n cefnogi’r profiad dysgu a gaiff myfyrwyr mewn sefydliadau yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd yr Athro Craig Mahoney, Prif Weithredwr yr HEA, bod y gwobrau’n cael eu hystyried yn rhai pwysig iawn yn y sector a bod cystadleuaeth fawr amdanynt. Ychwanegodd: “Mae’r 55 Cymrawd newydd a dderbyniwyd eleni i gyd wedi gwneud cyfraniad hynod werthfawr i addysgu a dysgu yn eu sefydliadau, ac yn aml yn ehangach na hynny. Yn yr HEA rydym wedi ymrwymo i gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth mewn addysgu. Yn ystod eu cyfnod mewn addysg uwch mae myfyrwyr yn haeddu – ac yn disgwyl – cael y profiad dysgu gorau posibl, ac mae staff gwych megis y Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol yn eu helpu i gael y profiad hwnnw. Rwy’n hynod falch bod yr HEA yn gweithredu’r rhaglen yma a hoffwn longyfarch yr holl gymrodyr newydd llwyddiannus.”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2012