Adnabod rôl yr amgylchedd wrth i'r gallu i wrthsefyll gwrthfiotigau ledaenu drwy'r byd
Mae gwrthsefyll gwrthfiotigau wedi cael ei adnabod yn y blynyddoedd diwethaf fel problem fawr ym maes gofal iechyd. Daw papur yn The Lancet Infectious Diseases (doi:10.1016/S1473-3099(12)70317-1), sy'n adolygu'r broblem ar raddfa fyd-eang, i'r casgliad nad oes digon o sylw yn cael ei roi i'r rôl bwysig y mae'r amgylchedd naturiol yn ei chwarae mewn cylchredeg gwrthfiotigau ac o ganlyniad bod bacteria yn datblygu'r gallu i'w gwrthsefyll.
Mae'r papur a ysgrifennwyd gan 12 o wyddonwyr o brifysgolion y DU a'r GIG yn dod i'r casgliad bod y bygythiad byd-eang posibl o ganlyniad i esblygiad parhaus bacteria pathogenaidd i wrthsefyll gwrthfiotigau (e.e. E. coli ) a welir mewn ysbytai ac yn yr amgylchedd yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd sydd ar fin digwydd ac y dylid rhoi sylw iddo ar unwaith.
Yn ôl yr adolygiad mae digon o dystiolaeth erbyn hyn i gefnogi'r ddamcaniaeth mai un o'r bygythiadau mwyaf sy'n datblygu i iechyd y cyhoedd yw'r lledaeniad ar raddfa fawr o straeniau o germau sy'n achosi salwch difrifol na ellir eu trin yn effeithiol gyda gwrthfiotigau. Dywedodd yr Athro Davey Jones, "Rydym yn cymryd yn ganiataol os ydym yn cael draenen yn ein bys ac mae'n troi'n septig neu'n cael dant drwg y gallwn gymryd gwrthfiotigau i'w gwella. Yn y dyfodol ni fydd hyn yn bosibl bob tro a gall y drwg ledaenu i weddill y corff. Gall canlyniadau hyn fod yn ddifrifol iawn. Bydd fel dychwelyd i'r oesoedd canol."
Fel yr eglura Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor a gyfrannodd at y papur: "Y broblem sylfaenol yw bod y gwrthfiotigau rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn gallu parhau yn yr amgylchedd ar ôl cael eu defnyddio i drin pobl neu anifeiliaid wrth iddynt gael eu hysgarthu, neu o ganlyniad i lygredd yn y fan lle cawsant eu cynhyrchu. Unwaith y maent yn yr amgylchedd, mae hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i bathogenau sy'n dod i gysylltiad â'r gwrthfiotigau hyn fwtanu fel y gallant eu gwrthsefyll. Gall y mwtaniadau hyn ledaenu i bathogenau cysylltiedig eraill yn yr amgylchedd
Bu cynnydd yn y bygythiad hwn gyda'r newidiadau diweddar mewn demograffeg, camddefnyddio gwrthfiotigau mewn gofal iechyd ac amaethyddiaeth a'r ffaith nad ydynt yn cael eu torri lawr yn llwyr wrth i garthion gael eu trin ac felly'n cânt eu rhyddhau i'r amgylchedd.
"Ein hawgrym yw bod rhaid i ni weithredu strategaethau byd-eang er mwyn osgoi'r argyfwng posibl hwn i iechyd y cyhoedd. Yn ogystal â chwilio am wrthfiotigau newydd mae'n rhaid i ni ddatblygu gwrthfiotigau smart sydd ddim yn byw mor hir yn yr amgylchedd. Gellid cyfuno hyn gyda rheoli'r gwrthfiotigau a ryddheir i'r amgylchedd ehangach yn fwy cyfrifol trwy reoli carthffosiaeth a gwastraff anifeiliaid yn well, ac addysgu pobl am raddfa'r broblem", eglurodd Dr Paul Cross.
Cyfraniad yr Athro Davey Jones, Dr Paul Cross a Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor i'r adolygiad oedd adnabod yr elfennau cymdeithasol sydd wedi achosi camddefnyddio gwrthfiotigau ym maes gofal iechyd ac amaethyddiaeth a'u cylchrediad dilynol yn yr amgylchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013