Adnabod Ymlysgiaid dan fygythiad
Mae Dr Anita Malhotra o Ysgol Gwyddorau Biolegol Bangor yn un o 200 o arbenigwyr blaenllaw ar ymlusgiaid sydd wedi cyd-awduro papur sy’n asesu’r perygl o ddifodiant i restr o 1,500 o ymlusgiaid a ddewiswyd ar hap o bob cwr o’r byd.
Mae’r papur, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain (The Zoological Society of London neu ZSL) ar y cyd efo’r Comisiwn Goroesedd Rhywogaethau (IUCN Species Survival Commission) yn adrodd bod 19% o ymlusgiaid y byd yn wynebu difodiant. Mae’r adroddiad llawn (yn Saesneg) yma:
Arbenigedd penodol Dr Malhotra yw’r wiber bydew Asiaidd. “Yn ystod fy ngwaith maes mewn sawl rhan o Asia, rwyf wedi cael y cyfle i brofi’n uniongyrchol y bygythiadau mae ymlusgiaid yn eu hwynebu, o ddinistrio eu cynefinoedd, eu hela ar gyfer bwyd, lledr neu’r ffaith syml eu bod yn brin. Yn ogystal, fel tacsonomegydd sydd yn ddiweddar wedi canfod rhywogaeth newydd o wiber bydew, rwy’n ymwybodol y gallai nifer o rywogaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn gyffredin a dim o dan fygythiad, fod yn rhan mewn gwirionedd o rywogaethau tebyg iawn iawn nad ydynt wedi eu hadnabod eto a gall y rhywogaethau unigol hyn fod o dan lawer mwy o fygythiad. Felly mae’r amcangyfrif yn y papur hwn o’r niferoedd sydd o dan fygythiad yn debyg o fod yn geidwadol iawn.”
Mae’r ymlusgiad Anolis bimaculatus o’r Antilles Lleiaf (llun) yn un o’r rhywogaethau a gynhwyswyd yn yr astudiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2013