ADNODD ymysg yr enillwyr unwaith eto yn Seremonïau Gwobrwyo Prifysgol Bangor
Bu’n gyfnod llwyddiannus arall eto i ADNODD yn ‘Nhymor Gwobrwyo’ Prifysgol Bangor (meddyliwch am yr Oscars ond â llai o hun-luniau). Yn dilyn cyfnod llawn gwobrau y llynedd, enillodd staff ADNODD ddwy wobr yn y Gwobrwyon Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr a gynhaliwyd ar 1 Mai. Enillodd Matt Hayward wobr Aelod Staff Newydd y Flwyddyn, a hynny’n brawf iddo wneud y penderfyniad iawn wrth newid Awstralia am barthau heulog Bangor. Rebecca Jones enillodd wobr Athro Ôl-radd y Flwyddyn, a hynny’n adlewyrchu’n benodol ei hymdrechion diflino ar fodiwlau lleoliadau arbennig ADNODD. Llongyfarchiadau i’r ddau, a chanmoliaeth arbennig hefyd i aelodau eraill staff ADNODD a gafodd enwebiad: Siân Pierce (a enwebwyd am Gefnogaeth Fugeiliol Eithriadol), Mark Rayment (a enwebwyd ar gyfer y Wobr Ryngwladol), Paul Cross (a enwebwyd yn Athro’r Flwyddyn) a Nicky Wallis (a enwebwyd ar gyfer Gwobr y Staff Cefnogi).
Trefnir y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr gan Undeb y myfyrwyr, a’u bwriad yw cydnabod cyfraniadau eithriadol a rhagoriaeth mewn addysgu ym Mangor. Mae’n bleser gennym gyhoeddi inni gael mwy fyth o lwyddiant ar y noson, wrth i Richard Dallison, sy’n astudio ar gyfer BSc mewn Daearyddiaeth, ennill gwobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn a enwebwyd gan fyfyrwyr, ac ennill hefyd Wobr Ragoriaeth Cyflogadwyedd Bangor, a hynny’n adlewyrchu’r amrywiaeth eang o weithgareddau all-gyrsiol a chyd-gyrsiol y bu Richard yn cyfranogi ynddynt.
Ychydig ddiwrnodau ynghynt, cymdeithasau myfyrwyr ADNODD ddaeth i’r brig, a hynny yng Ngwobrau Cymdeithasau Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. HogSoc (Cymdeithas ADNODD ar gyfer Garddwriaeth a Garddio Organig) enillodd Wobr y Flwyddyn gan y Gymdeithas Amgylcheddol am yr ail flwyddyn yn olynol, a STAG (Grŵp Gweithredu Myfyrwyr dros Dreborth) enillodd yr ‘un fawr’, sef Cymdeithas Fyfyrwyr y Flwyddyn. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac a oedd yn haeddu cydnabyddiaeth am eu hymdrechion trwy gydol y flwyddyn.
Ymddengys y bydd yn rhaid inni estyn silff ben tân yr Ysgol unwaith eto – dymuniadau gorau ar gyfer llwyddiant cyffelyb y flwyddyn nesaf…..
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015