Adnoddau Dysgu i Fyfyrwyr Nyrsio yn y Gymraeg
Mae adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Nyrsio, sydd eisoes wedi ennill Gwobr Addysg, Gwobrau’r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael eu lansio’n swyddogol ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 11.00 ddydd Gwener, 5 Awst 2011.
Wedi derbyn cefnogaeth a nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu menter, bu tîm o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn arwain project i ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer eu myfyrwyr nyrsio, er mwyn iddynt dderbyn hyfforddiant arbennig mewn nyrsio pobol ag Anableddau Dysgu, a hynny drwy’r Gymraeg.
Yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth addysg uwch drwy’r Gymraeg, bydd y deunyddiau dysgu’n cyfrannu at y nod o sicrhau bod pobol efo anableddau dysgu yn derbyn yr un safon gofal iechyd â gweddill y gymdeithas, rhywbeth a nodwyd nad yw’n digwydd ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.
Bydd yr adnoddau dwyieithog ar gael nid yn unig i hyfforddi myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd ar gyfer myfyrwyr Nyrsio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, gan safoni’r ddarpariaeth drwy Gymru yn y maes pwysig hwn a’i chynnig yn Gymraeg am y tro cyntaf. Bydd yr adnoddau hefyd ar gael ar gyfer unrhyw staff sy’n gweithio ym maes gofal pobol efo anableddau dysgu ac sy’n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n gwneud hynny eisoes.
Meddai Ruth Wyn Williams, Cymrawd Dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol, a fu’n arwain y Project a dderbyniodd £1,000:
“Mae disgwyl i bob myfyriwr sy’n graddio fod wedi magu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o faes nyrsio anabledd dysgu. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen i ddarparu staff nyrsio proffesiynol i ymarfer mewn sefyllfa ddwyieithog.”
Meddai Dr Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
‘Rwy’n falch iawn fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cefnogi datblygiad adnoddau ym maes Nyrsio. Mae tystiolaeth annibynnol yn dangos fod y gallu i ymarfer yn broffesiynol yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y claf, ac felly mae’n bwysig iawn fod y cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio astudio yn Gymraeg yn ehangu’n sylweddol iawn.’
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011