Adroddiad newydd yn tynnu sylw at ddylanwad ymchwil Prifysgol Bangor ar Gemau Olympaidd Llundain 2012
Mae'r adroddiad Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) yn dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd ac ar y diwydiant chwaraeon yn y DU.
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor wedi’i chynnwys mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolymaidd, ac ar chwaraeon ym Mhrydain yn gyffredinol. Cyhoeddwyd yr adroddiad fel rhan o Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o swyddogaeth eang ac amrywiol prifysgolion Prydain.
Mae’r adroddiad, Supporting a UK success story: The impact of university research and sport development, yn tynnu sylw at rai yn unig o’r ffyrdd y mae ymchwil wedi helpu tîm Prydain i baratoi at Llundain 2012. Tynnir sylw yn yr adroddiad at ddau ddarn o ymchwil o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol.
Mae’r projectau ymchwil ymysg rhai yn yr Ysgol sy’n edrych ar y pwysau y mae’r prif athletwyr yn eu hwynebu a sut y gall unigolion a hyfforddwyr baratoi fel y gall yr athletwyr berfformio ar eu lefel uchaf. Wrth gwrs gellir defnyddio rhai o’r strategaethau mewn meysydd eraill a gallant fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd.
Mae’r enghreifftiau'n dangos sut y gall ymchwil sy'n digwydd mewn prifysgolion ar draws Prydain, yn cynnwys Prifysgol Bangor, helpu athletwyr i gael y mymryn bach hwnnw o fantais dros eu cystadleuwyr a all olygu'r gwahaniaeth rhwng medal aur neu un arian.
Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl sut mae archwilio a datblygu ym meysydd technoleg, iechyd a lles, cynllunio, datblygu chwaraeon a chymryd rhan yn y Gemau, yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, wedi cyfrannu at Llundain 2012 a’r diwydiant chwaraeon yn y DU.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae Wythnos Prifysgolion 2012 yn gyfle rhagorol i dynnu sylw at beth o’r gwaith rhyfeddol y mae prifysgolion yn ei wneud ym maes chwaraeon, ac mae hynny’n briodol iawn gyda’r Gemau yn Llundain eleni. Mae’n gyfle gwych hefyd i wahodd pobl i brofi bywyd prifysgol yn uniongyrchol, p’un a ydynt wedi bod i brifysgol eu hunain ai peidio.”
Taith yw’r adroddiad mewn gwirionedd drwy’r ymchwil a’r datblygu chwaraeon sy’n sail i effaith barhaol Llundain 2012 ar wledydd Prydain. Ynddo ymdrinnir â phynciau mor amrywiol â hydradiad athletwyr i adfywio Dwyrain Llundain, cartref y Parc Olympaidd. Drwy'r adroddiad cyfan ceir enghreifftiau o adfywio trefol a hanes meddygaeth chwaraeon i ddangos yr amrywiol ffyrdd y bydd holl gymdeithas Prydain yn elwa o waith prifysgolion sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd.
Meddai Nicola Dandridge, Prif Weithredwr, Universities UK: “Pan ydych yn gwylio athletwr neu dîm yn cystadlu, mae’n hawdd anghofio gymaint o waith paratoi sydd y tu ôl i’w perfformiad. Mae hynny’n fwy na dim ond hyfforddi ac ymarfer. Y dyddiau hyn defnyddir yr ymchwil ddiweddaraf o’r prifysgolion i gefnogi pob agwedd ar chwaraeon Olympaidd – o faeth ac iechyd i offer, ffisiotherapi, adfer ac, wrth gwrs, perfformio ei hun. Er enghraifft, gall y cyfuniad o ddylunio a thechnoleg fod yn hynod effeithiol i brif athletwyr, fel y gall cynllun a dyluniad caiac neu bob-sleigh fod yr un mor bwysig â sgiliau a hyfforddiant yr athletwyr eu hunain.”
Meddai Karen Rothery, Prif Swyddog Gweithredol, British Universities & Colleges Sport: “Mae datblygiad chwaraeon yn ein prifysgolion yn annog mwy o gymryd rhan mewn chwaraeon ymysg myfyrwyr yn gyffredinol. Mae amrywiaeth o raglenni a chefnogaeth a datblygiad gweithlu cynorthwyol o wirfoddolwyr a swyddogion yn golygu bod mwy o bobl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau’r manteision niferus sy’n dod yn sgil hynny.”
Mae copïau o’r adroddiad llawn i’w gael o wneud cais i universitiesweek@fourcommunications.com ac yn ddiweddarach gellir ei lawrlwytho o www.universitiesweek.org.uk
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012