Adroddiad yn annog llywodraethau i adolygu'r ddyletswydd o addoli ar y cyd mewn ysgolion
Yn ôl y gyfraith mae angen i'r mwyafrif llethol o ysgolion gwladol yn y DU gynnal addoliad ar y cyd dyddiol (Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon) neu ddefod grefyddol (Yr Alban) i'w disgyblion. Rhaid i’r mwyafrif o’r addoliadau hyn yn ystod unrhyw dymor ysgol fod ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf Gristnogol eu natur’, ymwneud â ‘moli neu addoli bod neu rym dwyfol’ a 'rhoi statws arbennig i Iesu Grist'.
Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Alison Mawhinney (Ysgol y Gyfraith Bangor) wedi edrych ar y ddyletswydd hon ac, mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd y mis hwn, lansiwyd adroddiad sy'n argymell i lywodraethau'r DU edrych drachefn ar y rheidrwydd hwn rhag blaen.
Mae'r adroddiad, ‘Collective Worship and Religious Observance in Schools: An Evaluation of Law and Policy in the UK’, yn ganlyniad project dwy flynedd a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Fe wnaeth y project ddod â deg o ysgolheigion o bob rhan o'r DU at ei gilydd, gydag arbenigedd mewn nifer o ddisgyblaethau perthnasol, yn cynnwys addysg, y gyfraith, athroniaeth ac ysbrydolrwydd.
Mae'r adroddiad yn argymell yn gryf y dylai llywodraethau yn y DU ystyried o'r newydd y sail resymegol sydd wrth wraidd y dyletswyddau o gynnal addoli ar y cyd a defod grefyddol mewn ysgolion. Mae'n dadlau nad oes ar hyn o bryd unrhyw sail resymegol a dderbynnir dros ei gwneud yn rheidrwydd i gynnal gweithredoedd o addoliad mewn ysgolion gwladol - ac mai dim ond pan gytunir ar un y gellir dechrau trafodaeth wybodus ar p'un a ddylai'r dyletswyddau presennol barhau, cael eu diddymu neu eu diwygio.
Os na ellir canfod unrhyw sail resymegol dros addoli ar y cyd mewn ysgolion, mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r dyletswyddau presennol gael eu diddymu.
Mae'n nodi y gall y gwahanol wledydd yn y DU ddewis edrych mewn ffyrdd gwahanol ar y cwestiwn p'un ai i gadw, diddymu neu ddiwygio'r ddyletswydd yng ngoleuni amcanion a gwerthoedd system addysg pob gwlad.
Yn ogystal â phwysleisio'r angen i'r dyletswyddau presennol gael eu hailystyried yn sylfaenol, mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion o ran y ffordd y mae'r gyfraith a pholisi'n ymwneud ag addoli ar y cyd a defod grefyddol yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Mae'n gwneud yr argymhellion canlynol:
- Dylai holl awdurdodau addysgol yn y DU roi canllawiau i ysgolion i wneud yn glir bod yr hawl i dynnu'n ôl o weithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol yn ymestyn i bob ysgol.
- Dylai pob ysgol yn y DU gyhoeddi'n glir beth yw cynnwys a fformat gweithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol fel bod rhieni a disgyblion yn gwybod beth sy'n digwydd yn ystod y gweithgareddau hyn a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus p'un ai i gymryd rhan ynddynt ai peidio.
- Dylai holl ysgolion yn y DU hysbysu rhieni a disgyblion bod ganddynt hawl i beidio â mynd i weithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol.
- Dylai pob ysgol yn y DU ddarparu gweithgareddau eraill priodol, o werth addysgol, lle gofynnwyd am gael peidio â mynd i weithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol.
Gwneir argymhellion penodol hefyd yn yr adroddiad i Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban o ran addoli ar y cyd/defod grefyddol.
Yn ogystal â chyflwyno adroddiad y Rhwydwaith, roedd y gynhadledd yn cynnwys ymatebion i ddarganfyddiadau'r adroddiad ac argymhellion gan lywodraethau, budd-ddeiliaid academaidd ac academyddion.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys Prif Gofnodwr y Cenhedloedd Unedig ar Ryddid Crefyddol a Chred, Yr Athro Heiner Bielefeldt, Yr Athro Cymdeithaseg Crefydd, Linda Woodhead MBE (Prifysgol Lancaster), Yr Athro Diwinyddiaeth ac Addysg, Mary Elizabeth Moore (Prifysgol Boston), a'r Athro Addysg, Geir Skeie (Prifysgol Stockholm), yn ogystal â chynrychiolwyr o Adran Addysg a Sgiliau Cymru ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2015