Aelod Cyswllt o’r Canolfan Colclough wedi ei gwahodd i ddathlu gyrfa awdur poblogaidd
Yn ddiweddar bu Dr Hazel Pierce, Aelod Cyswllt o Ganolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, mewn digwyddiad ysblennydd yn yr Ivy Club yn Llundain i ddathlu bod yr awdures boblogaidd Philippa Gregory bellach yn awdur cyhoeddedig ers deng mlynedd ar hugain. Mae Philippa Gregory'n ysgrifennu nofelau hanesyddol ac mae'n un o awduron mwyaf llwyddiannus Prydain gyda'i llyfrau'n dod i'r safle uchaf o ran gwerthiant yn rheolaidd. Hefyd, mae ei nofelau wedi cael eu haddasu ar gyfer teledu a daeth The Other Boleyn Girl (2008) yn ffilm Hollywood gyda Natalie Portman a Scarlett Johansson yn chwarae'r prif rannau.
Ymysg y rhai a oedd yn bresennol yn y dathliad oedd Y Dywysoges Michael o Gaint a'r hanesydd, awdur a darlledwr Yr Athro Kate Williams, a darllenwyd negeseuon llongyfarch gan yr awduron Hilary Mantel, Kate Mosse a chyn gyflwynydd Radio 4, Sue MacGregor.
Meddai Hazel, 'Roeddwn wrth fy modd pan wnaeth Philippa fy ngwahodd i'r dathliad arbennig hwn.' Gorffennodd Hazel ei thesis PhD yn 1997 ac yn 2003 fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru dan y teitl Margaret Pole, Countess of Salisbury: Loyalty, Lineage and Leadership, 1473-1541, ac mae wedi cael ei ailgyhoeddi ers hynny. Bryd hynny nid oedd fawr ddim wedi cael ei ysgrifennu am Margaret Pole ac felly gwaith Hazel oedd y cofiant academaidd cyntaf i'r wraig hynod bwysig hon.
Eglurodd Hazel, "Yn 2015 cyhoeddwyd nofel Philippa, The King's Curse, ac aeth yn syth i frig y rhestr o lyfrau'n gwerthu orau. Roedd y nofel yn canolbwyntio ar fywyd Margaret Pole ac fe wnaeth Philippa, a oedd wedi darllen fy llyfr tra oedd yn ymchwilio i Margaret ar gyfer ei nofel, anfon copi cyfarch ataf. Ni feddyliais fwy am y peth nes i mi dderbyn y gwahoddiad!"
Nid Hazel yw'r unig awdur o Brifysgol Bangor y mae'r nofelydd blaenllaw hon wedi ymgynghori â'i waith. Cyhoeddodd Andrew Hiscock, athro yn yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg, erthygl ar weithiau defosiynol Katherine Parr: "'A supernal liuely fayth": Katherine Parr and the authoring of devotion' Women’s Writing, 9, 2, 2002, 177-98. Roedd hwn yn un o'r gweithiau a ddarllenodd Philippa Gregory wrth baratoi i ysgrifennu ei nofel The Taming of the Queen yn 2016, sy'n ymdrin â chweched wraig Harri VIII.
Ychwanegodd Hazel, "Mae llawer o nofelau Philippa Gregory'n canolbwyntio ar ferched go iawn o'r oesoedd canol a'r cyfnod Tuduraidd ac, fel un o nofelwyr hanesyddol mwyaf llwyddiannus y cyfnod presennol a chanddi gynulleidfa fyd-eang, mae Philippa Gregory'n dod â'r merched hyn, sy'n aml wedi eu hanghofio bellach, i sylw miloedd ar filoedd o ddarllenwyr. Mae rhestru'r ffynonellau a ddefnyddiodd yn galluogi'r rhai sydd eisiau gwneud ymchwil pellach i ganfod mwy am y merched hyn. Mae hwn yn gyfraniad gwerthfawr i astudio hanes yn gyffredinol ac i roi sylw canolog unwaith eto i'r merched hynny sydd yn aml bellach wedi eu gwthio i ymylon hanes."
Ceir mwy o wybodaeth am y digwyddiad yma.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2017