Aelod o ‘Dîm Bangor’ yn ennill Medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad
Mae medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad newydd gael ei hennill gan aelod o dîm Prifysgol Bangor yng Ngemau’r Gymanwlad.
Mae Gareth (Gaz) Evans yn aelod o staff y brifysgol yn gweithio yng Nghanolfan Brailsford. Mae newydd gipio’r fedal Aur wrth godi pwysau yn y categori 69 cilogram ar gyfer dynion, gan lwyddo i godi 299 kg.
Mae Gareth Evans, sydd yn Gymhorthydd Chwaraeon yn y Ganolfan Chwaraeon, wedi cystadlu nifer o weithiau ar lefel byd. Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 ac roedd yn un o'r ychydig i gyflawni cipiad dwbl pwysau’r corff yn y gystadleuaeth. Symudodd i ddosbarth pwysau uwch i gystadlu ym Mhencampwriaethau Hŷn y Gymanwlad yn Penang, Malaysia ym mis Hydref 2016. Drwodd a thro, cafodd Gareth fedal efydd, a medal arian am y cipiad a chadwodd ei le fel rhif 1 Prydain Fawr mewn dau ddosbarth pwysau.
Mae Gareth yn un o chwech athletwr o Brifysgol Bangor ar yr Arfordir Aur yn cynrychioli Cymru.
Yn y sgwad codi pwysau gyda Gareth mae Seth Casidsid, aelod arall o staff yng Nghanolfan Brailsford a raddiodd mewn Seicoleg; Catrin Jones, myfyrwraig Seicoleg; Harry Misangyi, myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon a Hannah Powell, a raddiodd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac sydd bellach yn gweithio i Codi Pwysau Cymru, sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Brailsford.
Hefyd yn cynrychioli Cymru mae Tesni Evans, Pencampwraig Genedlaethol Sboncen Prydain ar hyn o bryd a’r 12fed trwy’r byd. Mae Tesni’n hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor ac yn gwisgo crys Prifysgol Bangor wrth gystadlu’n broffesiynol ledled y byd.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn o gael cefnogi chwech athletwr o Fangor sy'n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, ac yn naturiol, rydym wrth ein boddau gyda llwyddiant Gareth - bellach mae gennym enillydd Medal Aur yn rhan o’n Tîm yng Nghanolfan Brailsford!"
Meddai’r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr): "Mae medru brolio fod chwe athletwr o Brifysgol Bangor yn aelodau o Dîm Cymru yn anrhydedd anferth i’r brifysgol ac mae'n adlewyrchu'r buddsoddiad yr ydym wedi'i i wneud i gefnogi ein myfyrwyr a'r gymuned chwaraeon yng Ngogledd Cymru. Bu ein campfa newydd, Platfform81, yn lleoliad hyfforddi delfrydol ar gyfer paratoadau Tîm Codi Pwysau Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer yr Arfordir Aur ac rydym wedi gwirioni gyda champ Gareth!"
Gweler hefyd:
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43666208
https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/516882-medal-gynta-cymru-gymanwlad
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2018