Aelod staff Prifysgol Bangor yn ennill y Taith Eithafol Eryri50 gyntaf erioed
Enillodd John Parkinson, sy’n bennaeth gweithredol Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ac yn dipyn o redwr mynydd, gategori'r dynion yn ras gyntaf Taith Eithafol Eryri50 ddydd Sadwrn, 13 Medi.
Roedd hi'n ras ar droed am 58.5 milltir (95km) ar draws tirwedd heriol a garw ac yn ddringfa o bron i 9000 o droedfeddi. Gan ddechrau ym Metws-y-coed aeth y rhedwyr drwy Ddolwyddelan, Blaenau Ffestiniog, Croesor, Beddgelert, Rhyd Ddu, Llanberis, Nant Ffrancon, Capel Curig ac yn ôl i Fetws y Coed. Mae John Parkinson yn rhedeg gyda thîm Eryri Harriers ond gan y cynhaliwyd ras Pedol Peris ar yr un diwrnod roedd llawer o redwyr mynydd Eryri yn rhedeg yn y ras honno. Felly dim ond Gwyn Owen a John Parkinson oedd yn cynrychioli'r Eryri Harriers yn y ras eithafol.
Ar ôl dechrau’n bwyllog, aeth grŵp o 7 rhedwr ar y blaen gyda'r haul yn dringo yn yr awyr uwchben dyffryn Dolwyddelan. Wrth ymyl Croesor roedd Mark Liptrot, o St Helen’s Sutton AC, 3 munud ar y blaen, gyda Gwyn Owen ac yna John Parkinson yn ei ddilyn. Aeth Gwyn ar y blaen wrth ddringo i fyny o Ryd Ddu i fwlch Maesgwm gyda John yn symud i'r ail safle. Ar y ffordd i lawr o Blas y Brenin i Fetws y Coed aeth John Parkinson ar y blaen ac arhosodd yn y safle hwnnw gan orffen y ras mewn 10 awr 33 munud. Roedd Gwyn Owen yn ail agos iddo gan orffen y ras mewn 10 awr 37 munud. Enillydd categori'r merched oedd Sarah Thomson (U/A) a orffennodd y ras mewn 13 awr 34 munud. Gorffennodd rhedwr olaf y ras mewn 20 awr 44 munud (gan orffen am 3:15am) gyda 7 DNFs.
Diolch i Henry Williams a'i dîm o drefnwyr am ddigwyddiad rhagorol wedi'i drefnu'n dda. Cewch weld y canlyniadau llawn a'r lluniau ar y wefan: www.snowdonia50.com
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2014