Agenda newydd i adfywio a datblygu canol trefi yng Ngogledd Cymru
Ddydd Llun, 13 Ebrill, fe wnaeth Julian Dobson, arbenigwr cydnabyddedig mewn adfywio trefol, draddodi darlith gyhoeddus yn Adeilad Thoday i fyfyrwyr Datblygu Cynaliadwy.
Gan lansio ei lyfr newydd How to Save our Town Centres, http://www.policypress.co.uk/display.asp?ISB=9781447323938&) i gynulleidfa o fudd-ddeiliaid allweddol, arweiniodd Julian Dobson (o www.urbanpollinators.co.uk) weithgaredd cyfnewid gwybodaeth a oedd yn gyfuniad o ddarlith a gwaith maes, gan ganolbwyntio ar y ffyrdd diweddaraf o feddwl ynghylch adfywio cymunedau lleol, gyda'r cymunedau hynny'n arwain y gwaith.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys ymgynghorwyr adfywio lleol, cynghorwyr a swyddogion o awdurdodau lleol ac roedd yr achlysur yn gyfle i rannu syniadau ynghylch gwella trefi, dinasoedd a chymunedau, o ystyried y buddsoddiad sylweddol a geir drwy Gymru o gynllun Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Canol Trefi.
Yn dilyn y ddarlith, caiff myfyrwyr Prifysgol Bangor brofi drostynt eu hunain y gwaith adfywio arloesol sy'n cael ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog gan Antur Stiniog, Seren ac asiantaethau lleol eraill.
Meddai Eifiona Thomas Lane, Darlithydd mewn Cynllunio Amgylcheddol/ Daearyddiaeth:
"Mae hwn yn gyfle unigryw i'n myfyrwyr gymryd rhan mewn lansio llyfr o bwysigrwydd i Gymru gyfan ac yna cael mwynhau profiad maes gwirioneddol ysgogol lle byddant yn edrych ar enghreifftiau gwirioneddol ddiddorol o weithgareddau adfywio priodol, cynaliadwy a chyfrifol.
Meddai Alan Southall o CREW, Adfywio Cymru, sy'n bartneriaid â'r Brifysgol yn y cynllun hwn:
"Un o brif amcanion CREW yw hyrwyddo'r dulliau gweithredu gorau mewn adfywio. Mae'r cyfle i weithio gyda'r Brifysgol i gyflwyno enghreifftiau o ddulliau gweithredu arloesol a newydd i sicrhau adfywio integredig yn cael ei ystyried yn ffordd bwysig o ledaenu'r wybodaeth i gynulleidfa eang. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at drafodaeth dreiddgar gydag arbenigwyr ac ymarferwyr, dan arweiniad Julian Dobson sydd â chyfoeth o brofiad yn y maes."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2015