Agor Canolfan Iaith Newydd yn Yr Wyddgrug
Yn sgil cynnydd yn y niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg yn yr ardal, mae Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, agorwyd Canolfan Iaith newydd yn Yr Wyddgrug heddiw.
Nododd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ei ymddiheuriadau na allai fod yn bresennol a chynnig ei ddymuniadau gorau ar gyfer yr agoriad ac i ddyfodol y ganolfan. Yr AC ar gyfer Gogledd Cymru, Llŷr Huws Gruffydd, a fu'n agor y ganolfan yn swyddogol fel ‘Tŷ Pendre Newydd’.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae cynnydd wedi bod yn y niferoedd sydd eisiau dysgu Cymraeg yn yr ardal. Erbyn hyn mae dros 1,000 wedi cofrestru ar gyrsiau Cymraeg yn Sir y Fflint, gyda Phrifysgol Bangor yn darparu dros 40% o’r cyrsiau hynny. Gydag ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r ardal eleni, fe ddisgwylir cynnydd pellach yn niferoedd dysgwyr y Gymraeg.
Gyda hyn mewn golwg, dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru,
“Mae cael Canolfan Iaith fodern fel Tŷ Pendre Newydd yn allweddol fel canolbwynt i fwrlwm dysgu Cymraeg”
Mae’r ganolfan Iaith newydd, wedi ei lleoli yn Ystâd Ddiwydiannol Bromfield, dafliad carreg o swyddfeydd Menter Iaith Maelor a Sir y Fflint. Bydd y ganolfan yn amcanu i gydweithio’n glos gyda’r mentrau â chymdeithasau lleol i hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg. Mae Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn ymroddedig i greu pob cyfle posib i ddysgwyr a siaradwyr gael dod ynghyd i gymdeithasu. Dyma’r allwedd i arwain dysgwyr hyd at rugledd yn yr Iaith a hefyd i gryfhau'r Iaith o fewn ein cymunedau.
Ar achlysur agoriad swyddogol y Ganolfan Iaith dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor;
“Mae traddodiad 33 mlynedd o ddysgu gan y Brifysgol yn Sir y Fflint, ac rydan ni’n unigryw yn y ffaith mai dim ond yma y medrwch chi gael cyrsiau i ddechreuwyr pur reit drwodd ar gyfer dysgwyr rhugl. Mae’r Ganolfan hon yn cynnig sail cwbl gadarn ar gyfer dyfodol dysgu Cymraeg yn y sir”.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015