Agor y Llen ar Drysor Cudd
Bydd trysor o adnoddau hanesyddol lleol yn cael eu harddangos i’r cyhoedd wrth i Adran Archifau Prifysgol Bangor gynnal Diwrnod Agored ar Chwefror 26 rhwng 1.00 a 4.30.
Er bod yr archifau ar agor yn ddyddiol i ymchwilwyr, myfyrwyr a haneswyr lleol, ac yn wir i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn hanes, astudio’r dogfennau sydd ar gadw yno, mae’r Adran Archifau’n gwahodd ymwelwyr yno ar y Diwrnod Agored i weld y casgliad o adnoddau hanesyddol, ac i ddysgu sut i’w defnyddio. Eleni, i gyd-fynd â chanmlwyddiant a hanner yr ymfudo o Gymru i’r Wladfa ym Mhatagonia, Cymru a’r Byd yw thema’r diwrnod.
Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i weld rhai o brif drysorau’r Archif yn yr Ystafell Ddarllen. Bydd y rhain yn cynnwys ffotograffau a dogfennau’n ymwneud â’r Wladfa yn Chubut a Chwm Hyfryd. O ddiddordeb hefyd fydd dyddiaduron y cenhadon aeth i Fryniau Casia, yr India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ogystal â bod yn gyfrifol am storio a diogelu dogfennau archif hanes cynnar y Brifysgol ei hun, mae’r Archif yn cadw dogfennau a chasgliadau a roddwyd i’w gofal er mwyn eu cadw’n ddiogel.
Un ffactor sy’n gyffredin i’r holl gasgliadau, sy’n cynnwys llawysgrifau’n dyddio yn ôl i’r deuddegfed ganrif, yw eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffeg Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal â diddordeb lleol.
“Ymysg y dogfennau sydd ar gael i’w harchwilio neu eu darllen at ba bynnag bwrpas, mae papurau’n ymwneud ag unigolion ac archifau teuluol, cofnodion ffermio ac amaeth a chofnodion gwleidyddol. Mae'r rhain i gyd yn rhoi cipolwg hynod ar fywyd beunyddiol pobol yng Nghymru, ac yn adnodd unigryw,” meddai Einion Thomas yr Archifydd.
Mae cofnodion y coleg yn ymestyn dros ganrif rhwng y cyfnod cyn sefydlu’r brifysgol yn yr 1880au hyd at yr 1980au ac yn cynnwys cofnodion cynharaf y Brifysgol a’i myfyrwyr a ffotograffau, cardiau post ac effemera printiedig. Maent yn ymwneud â phynciau megis adeiladau’r Brifysgol, clybiau a chymdeithasau, cyngherddau, streiciau a phrotestiadau.
Hefyd yn yr Archif mae’r casgliad gorau yng Nghymru o bapurau ystadau a theuluoedd, yn ogystal â chasgliadau o bapurau gan athrawon a darlithwyr y Brifysgol, haneswyr, hynafiaethwyr, ffermwyr, gwŷr busnes a gweinidogion yr efengyl.
Nid oes angen gwneud apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â’r Archifdy, ond er mwyn gweld dogfennau gwreiddiol bydd angen i chi ddod â dwy ddogfen gyda chi, un yn dystiolaeth adnabod a’r llall yn dystiolaeth o’ch cyfeiriad.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015