Ai’r hyn rydych yn ei weld fyddwch chi’n ei gael? Academyddion Bangor yn ymchwilio i reoli argraffiadau gan sefydliadau busnes
Bydd ‘rheoli argraffiadau’, neu sut mae sefydliadau yn rheoli’r ffordd cânt eu gweld gan y cyhoedd, yn ganolbwynt ymchwil blaengar gan ganolfan newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae rheoli argraffiadau wedi chwarae rôl bwysig mewn sgandalau corfforaethol diweddar fel Enron, WorldCom a Parmalat. Gyda ffydd y cyhoedd yn y sector ariannol wedi’i ysgwyd, bydd y Ganolfan Rheoli Argraffiadau mewn Cyfathrebu Cyfrifeg (CIMAC) ym Mangor yn bwrw goleuni ar y dulliau a ddefnyddir gan gwmnïau i reoli eu delweddau, gan felly helpu i atal y cyhoedd rhag cael eu twyllo gan 'sbin'.
Mae CIMAC wedi ei leoli yn Ysgol Busnes y Brifysgol a’i amcanion yw hyrwyddo, cynnal ac annog ymchwil arloesol i’r ffordd y gall cyfathrebu cyfrifeg - sy’n cynnwys datganiadau ariannol, adroddiadau blynyddol a gwefannau - gael ei ddefnyddio i gamliwio argraff y cyhoedd o gwmni. Er gall y ddelwedd a gyflwynir yn aml fod yn un gwir, gellir defnyddio rheoli argraffiadau i hyrwyddo nodweddion cadarnhaol sefydliad a chuddio'r agweddau hynny a allai niweidio ei enw da.
“Nid yw rheoli argraffiadau wedi ei gyfyngu i gwmnïau mawr rhestredig”, meddai Dr Doris Merkl-Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr CIMAC. “Mae pob sefydliad, gan gynnwys cwmnïau preifat, sefydliadau’r sector cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio ‘sbin’ i gael eu gweld mewn golau ffafriol, sy’n golygu bod rheoli argraffiadau yn rhywbeth sy’n effeithio arnom i gyd mewn rhyw ffordd.”
Bydd y ganolfan newydd yn cael ei lansio ddydd Gwener, 15 Mehefin, a bydd dan arweiniad yr Athro Lynn Hodgkinson a’i chydweithwyr Dr Merkl-Davies a Dr Aziz Jaafar.
Ewch i http://cimac.bangor.ac.uk/ am wybodaeth bellach am lansiad swyddogol CIMAC.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2012