Ail-broffesiynoli Bancio a Chyllid yn Trinidad a Tobago
Ym mis Tachwedd bu Prifysgol Bangor yn ymweld â Trinidad a Tobago i ddatblygu perthynas newydd ar gyfer darparu addysg ôl-radd Bancio a Chyllid, trwy'r rhaglen MBA Banciwr Siartredig. Mae Trinidad a Tobago, talaith fwyaf deheuol y Caribî, yn un o'r cenhedloedd cyfoethocaf yng nghyfandiroedd America ac yn enwog am ei hamrywiaeth. Mae hefyd yn gartref i sector gwasanaethau ariannol sy'n ehangu.
Cydlynwyd yr ymweliad gan yr Institute of Banking and Finance of Trinidad and Tobago ac roedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda llywodraeth Trinidad a Tobago, a chyfarfodydd gyda'r Gweinidog Addysg, yr Anrhydeddus Anthony Garcia, Banc Canolog Trinidad a Tobago a Dr Eduard Ali, Cyfarwyddwr Cyngor Achredu Trinidad a Tobago. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gydag uwch swyddogion gweithredol nifer fawr o fanciau Trinidad a Tobago a chwmnïau gwasanaethau ariannol yn cynnwys Republic Bank, Scotia Bank, RBC Royal Bank T&T, the Trinidad and Tobago Unit Trust Corporation, First Citizens Bank a'r JMMB Group. Daeth yr ymweliad i ben gyda digwyddiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus llwyddiannus iawn (ar gyfer Sefydliad y Bancwyr Siartredig) gyda dros 45 o swyddogion gweithredol banciau a chyllid ac academyddion lleol priodol yn bresennol. Arweiniwyd y digwyddiad gan yr Athro John Ashton FCBI o Ysgol Busnes Bangor gan roi ystyriaeth i ddyfodol cyflogaeth yn y sector bancio. Roedd y sesiwn hon hefyd yn cynnwys nifer o drafodaethau angerddol ac optimistaidd gan fyfyrwyr blaenorol a phresennol Prifysgol Bangor sydd wedi'u lleoli yn Trinidad a Tobago.
Dywedodd yr Athro Ashton o Ysgol Busnes Bangor wrth sôn am yr ymweliad, “Roedd yn bleser mawr cael ymweld a datblygu cysylltiadau pellach â banciau, cwmnïau gwasanaethau ariannol, rheoleiddwyr ariannol, y banc canolog a llywodraeth Trinidad a Tobago. Cawsom ein croesawu gan yr Institute of Banking and Finance of Trinidad and Tobago a roddodd gymorth amhrisiadwy wrth gysylltu â nifer fawr o bartneriaid y dyfodol ar gyfer Prifysgol Bangor. Mae'r cwrs MBA Banciwr Siartredig eisoes wedi'i ddilyn a'i gwblhau gan nifer o swyddogion gweithredol canol gyrfa o'r diwydiannau ariannol yn Trinidad. Ar ôl clywed am y cymorth gwych y mae'r rhaglen hon wedi'i rhoi i'n graddedigion wrth ddatblygu eu gyrfaoedd, rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o bobl Trinidad a Thobago yn dewis y rhaglen hon. Bydd cymryd yr MBA Banciwr Siartredig yn galluogi rhagor o fancwyr, rheoleiddwyr ariannol a swyddogion gweithredol ariannol i weithio gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu eu hymarfer moesegol a phroffesiynol ac ennill y Statws Banciwr Siartredig pwysig.”
Dim ond Ysgol Busnes Bangor sy'n cynnig MBA Bancwyr Siartredig, a dyma'r unig gymhwyster yn fyd-eang sy'n rhoi statws MBA yn ogystal â statws Banciwr Siartredig gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig arobryn. Datblygwyd cymhwyster dwbl CBMBA i 'ail-broffesiynoli bancio' yn rhyngwladol ac mae ganddo dros 1000 o ddysgwyr a graddedigion o 82 o genhedloedd.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019