Ail enwebiad am wobr i Ysgol y Gyfraith Bangor
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wedi ei rhoi ar y rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn.
Mae Dr Ama Eyo yn un o ddim ond chwech o athrawon y gyfraith mewn sefydliadau ledled y DU a roddwyd ar y rhestr fer am y wobr. Noddir y Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn gan Wasg Prifysgol Rhydychen, a dyma'r unig un o'i bath yn y DU a sefydlwyd yn benodol i wobrwyo dysgu da ym maes y gyfraith mewn addysg uwch ac addysg bellach.
Cafwyd nifer eithriadol o uchel o enwebiadau gan brifysgolion o bob rhan o'r DU, felly roedd hi'n dasg anodd i'r panel o feirniaid ddewis rhestr fer derfynol o chwech. Bydd y beirniaid yn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer yr ail gam o'r broses beirniadu, gan y rhoddwyd un o gydweithwyr Ama Eyo, sef Sarah Nason yn yr Ysgol Gyfraith, ar restr fer y gystadleuaeth y llynedd gan amlygu safon uchel yr addysgu yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Ama yw cyfarwyddwr LLM Bangor mewn Caffael Cyhoeddus, lle mae wedi datblygu dulliau addysgu arloesol i ennyn brwdfrydedd myfyrwyr am y gyfraith a strategaeth caffael cyhoeddus yng nghanolfan cyfraith caffael blaengar Ysgol y Gyfraith, sef y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael. Mae Ama hefyd yn dysgu Cyfraith Cwmnïau a Chamwedd ar lefel israddedig a daw'n wreiddiol o Nigeria gyda PhD o Nottingham.
Wrth ganmol ei dulliau newydd o addysgu, meddai Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor, yr Athro Dermot Cahill:
"Maen nhw'n dweud nad yw mellt yn taro ddwywaith ond mae wedi digwydd yma! Dyma'r ail gydweithiwr yn ddilynol i'w roi ar y rhestr fer ar gyfer rownd terfynol cystadleuaeth 'Athro'r Gyfraith y Flwyddyn' Gwasg Prifysgol Rhydychen. Am flwyddyn arbennig i Ysgol y Gyfraith Bangor! Daeth yr ysgol yn gyntaf drwy Gymru yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diwethaf, ac yn rhannu’r 5ed sgôr uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol ein myfyrywr. Mae cael ein hanrhydeddu gan y llwyddiant hwn i'n cydweithiwr gwych Dr Ama Eyo yn dangos bod darlithio rhagorol yn rhywbeth yr ydym ni a'n myfyrwyr yn ei werthfawrogi'n fawr ym Mangor. Rwy'n falch dros Ama, mae'n paratoi'n hynod o ofalus ar gyfer ei dosbarthiadau ond mae'n gwneud i'r holl beth ymddangos yn gwbl ddiymdrech yn yr ystafell seminar. Dyma pam mae ei myfyrwyr yn ymateb wrth iddi eu gwthio i fynd ymhellach a rhyfeddu eu hunain wrth chwilio am wybodaeth. Rheswm arall pam yr ydym yn ymfalchïo yn ei henwebiad yw ei bod yn cyfuno dulliau dysgu modern gyda'r rhinweddau traddodiadol "hen ffasiwn" o onestrwydd, gwaith caled ac ymroddiad. Mae hyn yn llwyddo i'w gwneud yn athro rhagorol yn y gyfraith ac yn ysbrydoliaeth i'w myfyrwyr. Rydym yn falch iawn o gael cydweithiwr fel Ama yn aelod staff. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Ama yng ngham nesaf y gystadleuaeth hon".
Ar ôl clywed y newyddion, meddai Ama Eyo:
"Rwyf yn hynod falch o glywed y newyddion rhagorol hwn gan ei fod yn dangos dilysiad y berthynas mae fy myfyrwyr a finnau wedi ceisio ei chreu dros y blynyddoedd, y cyfraniadau eithriadol a wnaed gan fy nghydweithwyr a'r myfyrwyr tuag at fy nysgu, ac mae'n arwydd pendant o'r cysylltiad rhagorol rhwng darlithwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Yn ystod fy ngyrfa academaidd dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae'r brifysgol ac Ysgol y Gyfraith Bangor wedi rhoi amrywiaeth o gyfleoedd a sgiliau dysgu unigryw i mi, ac rwyf yn ddiolchgar bod fy myfyrwyr wedi fy helpu i ddatblygu a mireinio'r sgiliau hyn drwy eu hymroddiad a'u diddordeb yn y dosbarth.
Mae cael darlithydd o Ysgol y Gyfraith ar y rhestr fer am yr ail flwyddyn yn olynol yn dathlu'r ffaith bod ein myfyrwyr yn credu yn yr hyn rydym yn ei wneud ac yn adlewyrchu'r gefnogaeth rwyf yn ei derbyn gan fy nghydweithwyr sydd wedi'u hymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Mae’n bleser gen i fod yn rhan o gymuned sy'n cael ei gyrru gan ddysgu effeithiol ac ennyn diddordeb y myfyrwyr, y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth."
Yn ymuno ag Ama Eyo ar y rhestr fer mae Paula Blakemore, Academi’r Gyfraith a Choleg Chweched Dosbarth Birkenhead; Emily Finch, Prifysgol Surrey; Jane Holder, Coleg Prifysgol Llundain; Esther McGuinness, Prifysgol Ulster a Nick Taylor o Brifysgol Leeds.
Cyhoeddir yr enillydd mewn cinio gwobrwyo yn Rhydychen ar 27 Chwefror 2015.
Enwebiad Ama Eyo yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau mawr yn Ysgol y Gyfraith ym Mangor sy'n amlygu'r cynnydd aruthrol a wnaed yn yr ysgol ers ei sefydlu deng mlynedd yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014