Ail-greu Organ ‘Ganoloesol’ i gwblhau Eglwys Ganoloesol
Mae offeryn cerdd unigryw i’w ddadorchuddio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar 8-9 Ebrill. Mae’r organ addurnedig, sydd â sain wahanol iawn i’r organ eglwys fodern, yn ail-greu’r organ ganoloesol sydd, erbyn hyn, wedi’i cholli. Bydd yn ail-greu sain ddilys cerddoriaeth eglwysig yr oesoedd canol, ac yn cwblhau’r tu fewn i Eglwys Ganoloesol Teilo Sant yn Sain Ffagan.
Mae’r organ wedi’i seilio ar ychydig ddarnau organ ganoloesol sydd wedi goroesi, ac wedi’i hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau cynhyrchu traddodiadol, a chan ddefnyddio’r ymchwil fwyaf blaengar ac ‘archeoleg greadigol’ i ail-greu sain golledig yr organ canoloesol.
Bydd yr organ yn cael ei lansio’n gyhoeddus gyda gweithdy a chyflwyniadau ar 8-9 Ebrill yn Eglwys Teilo Sant, sydd hithau wedi’i hail-adeiladu yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Mae croeso i bawb ddod i’r lansiad. Cynhelir gweithdy ymarferol ddydd Gwener 8 Ebrill am 10.30-12.30, ac am 14.00-16.00, a chyflwyniad cyffredinol ddydd Sadwrn am 10.30-11.15, ac eto am 11.45-12.30. Fodd bynnag, oherwydd y prinder lle, mae’n rhaid cadw lle o flaen llaw drwy gysylltu â Keith Beasley, drwy e-bost at k.beasley@bangor.ac.uk neu ar y ffôn: 01248 382490.
Dyma un o ganlyniadau pwysig cyntaf y project ymchwil: Y Profiad o Addoli, sy’n cael ei gyllido gan Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Cymdeithasol. Cynhelir y project mewn cydweithrediad agos â Sain Ffagan ac Eglwys Gadeiriol Caersallog.
Fel yr esbonia’r Athro John Harper, sy’n arwain y Project o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor: “Y nod yw ymchwilio i’r hyn yr oedd y profiad o addoli yn ei olygu yn y cyfnod Canoloesol Diweddar, i’r rhai a oedd yn cymryd rhan, a sut y gallem gysylltu ein profiad presennol o’r eglwysi canoloesol sydd wedi goroesi â’r testunau, arteffactau a cherddoriaeth a ddefnyddiwyd ynddynt. Mae hynny’n cynnwys yr organ ganoloesol ddiweddar, sydd bron heb unrhyw ôl ym Mhrydain – er bod dogfennau a cherddoriaeth yn profi iddi gael defnydd eang yn yr Eglwys yn ystod y cyfnod.”
Esbonia’r Athro John Harper ymhellach: “Mae’r organ yn ymgais i ail-greu’r math o offeryn rydym yn gwybod iddo gael ei defnyddio oddeutu 1520, cyfnod y mae Eglwys Teilo Sant wedi’i haddurno a’i ddodrefnu i’w adlewyrchu.”
Dyluniwyd ac adeiladwyd yr organ yng ngweithdy Goetze a Gwynn, sydd â phrofiad helaeth o organau hanesyddol. Mae’r cas derw yn ffurf sylfaenol ar yr unig gas organ o Ynysoedd Prydain sy’n dyddio o adeg cyn y Diwygiad Protestannaidd, ac sy’n dal i sefyll yn Eglwys Plwyf Pen Graig (Old Radnor) ym Mhowys. Mae’r pibau’n seiliedig ar enghreifftiau cynnar o Dde Orllewin Lloegr – wedi’u dewis oherwydd y cysylltiadau masnachol efo Cymru ar draws Môr Hafren. Mae’r fegin sy’n cael ei gweithio â llaw i ddarparu gwynt i’r organ yn seiliedig ar ddarluniau o’r cyfnod.
Mae drysau’r organ wedi’u haddurno’n ysblennydd – â phaentiadau o olygfeydd ar Cyfarchiad a’r Enedigaeth, unwaith eto’n defnyddio deunyddiau dilys o ddechrau’r 16eg ganrif. Gwnaethpwyd y gwaith gan Fleur Kelly, arbenigydd wedi ‘i hyfforddi yn Yr Eidal mewn technegau paentio o’r oesoedd canol a’r dadeni. Bydd ei gwaith ar sgrîn y grog a’r paneli eisoes yn gyfarwydd i ymwelwyr i sant Teilo.
Bydd yr organ yn caniatáu ymchwil newydd i repertoire organ ac organ a llais y cyfnodau Canoloesol Diweddar a Modern Cynnar ym Mhrydain.
Mae ganddi ddwy allweddell efo ystodau gwahanol, yr ail i ddangos newidiadau mewn ymarfer yn y cyfnod Tuduraidd diweddar. Er mai’r syniad yw i sant Teilo fod yn gartref parhaol i’r organ, mae wedi’i chynllunio i’w symud fel ei bod ar gael mewn mannau eraill ar gyfer defnydd arbenigol, ymestyn allan yn addysgol, dysgu uwch ac ymchwil. Mae cyfnod preswyl ar y gweill i’r organ yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn gynnar yn 2012.
I weld a chlywed yr organ cliciwch yma ac yma.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2011