Ailenwi Cae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn Stadiwm Prifysgol Bangor yn dilyn cytundeb partneriaeth o bwys
Bydd cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn cael ei ail enwi yn Stadiwm Prifysgol Bangor wedi cytundeb rhwng y Clwb a’r Brifysgol.
Prifysgol Bangor fydd y partner gyda hawliau enwi, fel rhan o gytundeb tair blynedd, yr ail newid enw ers i’r Clwb symud i Nantporth yn 2012.
Gêm Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn erbyn Tref Port Talbot fydd y gyntaf i’w chwarae yn Stadiwm Prifysgol Bangor.
Meddai Cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor Dilwyn Jones: “Rydym yn gweld hyn fel cyfle cyffroes ac yn bartneriaeth i’r Clwb, i Brifysgol Bangor, y ddinas a’n cefnogwyr.
“Nod y cydweithio yw sefydlu cynaladwyedd a datblygiad drwy rannu sgiliau ac adnoddau. Mae’r cyfle i ddatblygu perthynas gyda myfyrwyr a staff sy’n dod â dimensiwn ychwanegol i ddatblygiad chwaraewyr a busnes i’r clwb yn un llawn cyffro.”
Mae gan Brifysgol Bangor record hir o ragoriaeth academaidd ac mae’n cael ei hadnabod am yr ymchwil fyd-arweiniol. Mae’r Brifysgol hefyd yn ymddangos ymysg y 10 prifysgol uchaf yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015. Mae Prifysgol Bangor yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd ac yn cynnig amrediad eang o bynciau a bydd y bartneriaeth yma yn gweld y Brifysgol yn ymwneud â’r Clwb Pêl-droed mewn sawl ffordd.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor:
“Mae hyn yn gychwyn ar bartneriaeth cyffroes gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor a rhywbeth a fydd yn dod â budd i’r Clwb, i’r Brifysgol ac i’r gymuned leol. Drwy nifer o leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, byddwn yn cynorthwyo’r Clwb wrth ddatblygu eu rhaglenni ieuenctid yn ogystal â rhoi sgiliau cyflogadwyedd mewn meysydd fel rheoli cyfleusterau, cyfryngau a hyfforddi i’n myfyrwyr.”
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2015