Ailgreu'r profiad o addoli yn y cyfnod canoloesol
Mae project sy’n ymchwilio profiad Canoloesol o addoli yn cael sylw mewn stori nodwedd ar safle we’r Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Yr Athro John Harper a Dr Sally Harper o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy’n arwain project: ‘Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol ddiweddar.’
Mae’r project yn ceisio dyfalu nid yn unig sut yr oedd cynnal a phrofi addoli yn y Canol Oesoedd, ond hefyd sut y gallai hyn arwain at ddealltwriaeth newydd ynglŷn ag addoli mewn adeiladau canoloesol heddiw. Cyrff partneriaeth y project yw Sain Ffagan ac Eglwys Gadeiriol Caersallog. Cyllidir y project gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o raglen Crefydd a Chymdeithas.
Erthygl nodwedd ar dudalen y Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2013