Ailgyfodi Cymdeithas y Ddrama Gymraeg
Y mae’n fwriad gan rai o fyfyrwyr ôl-radd Ysgol y Gymraeg atgyfodi hen gymdeithas a sefydlwyd yma ym Mangor yn 1923 dan lywyddiaeth neb llai na’r bardd R. Williams Parry sef CYMDEITHAS Y DDRAMA GYMRAEG.
Roedd y myfyrwyr yn awyddus i godi cwmni drama a fyddai’n fodd i ddwyn myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol at ei gilydd i ychwanegu at y profiad o ddysgu ag o gymdeithasu. Wedi holi ychydig darganfuwyd fod yna Gymdeithas Ddrama Gymraeg yn bodoli eisoes yn y Brifysgol ond ei bod yn segur ers blynyddoedd maith. Aethpwyd i ymchwilio i hanes y Gymdeithas hon yn Archifdy’r Brifysgol a darganfuwyd yno dystiolaeth i’r Gymdeithas Ddrama fod yn fudiad llewyrchus a llwyddiannus iawn, ac yn rhan anatod o’r Gymdeithas Gymraeg ym Mangor, yn enwedig felly o dan arweiniad rhai o lenorion ac academwyr enwocaf Cymru R. Williams Parry, Ifor Williams, Thomas Parry a John Gwilym Jones, rhai a fu hefyd yn aelodau o staff Ysgol y Gymraeg yma ym Mangor.
Bu’r Gymdeithas Ddrama hon yn teithio hefyd a chafodd nifer o fyfyrwyr gyfle i berfformio ar lwyfannau ledled Cymru. Mae hen raglenni’r perfformiadau hyn wedi eu diogelu ac mae nifer dda o’r myfyrwyr hynny a oedd yn perthyn i’r Gymdeithas wedi dod yn enwog iawn eu hunain yn eu tro. Yn eu mysg mae enwau cyfarwydd fel John Ogwen a Maureen Rhys, dau o Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Bangor.
Eleni, byddwn yn rhoi bywyd newydd i’r Gymdeithas hon gyda’r bwriad o ddathlu’r hyn sydd wych ym myd y ddrama Gymraeg – y traddodiadol a’r newydd.
Un o’r rhai sy’n gyrru’r fenter yw Diane Jones sy’n ymchwilio ar gyfer PhD i’r dramâu a ysgrifennodd yr awdures enwog Kate Roberts. Os oes gennych ddiddordeb ymuno â’r Gymdeithas rhowch wybod drwy anfon neges ati i’r cyfeiriad hwn: wepe0a@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012