Alumnus y Flwyddyn 2017
Bob blwyddyn, mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ceisiadau ac yn cynghori'r brifysgol ar ddyfarnu’r wobr Alumnus y Flwyddyn. Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiant eithriadol gan un o raddedigion Bangor yn ei maes dewisol, yn enwedig y rhai sy'n cadw cysylltiad gweithredol â'r brifysgol ar ôl iddynt raddio.
Roedd Prifysgol Bangor yn falch o enwi Ray Footman yn Alumnus y Flwyddyn 2017 yn ystod yr wythnos raddio. Mae Ray yn gyn-fyfyriwr Hanes ac Athroniaeth a raddiodd ym 1961 a gwasanaethodd fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor rhwng 1961 a 1962. Mae'n gyn aelod a chyn-gadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol Alumni ac roedd yn allweddol yn ei ddatblygiad. Mae wedi cefnogi Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau’r brifysgol dros y blynyddoedd drwy drefnu aduniadau ym Mangor a Chaeredin ac mae wedi bod yn gefnogwr mawr o Brifysgol Bangor.
Ymunodd Ray â Phrifysgol Caeredin ym 1969 fel Pennaeth Gwybodaeth y Pwyllgor Is-gangellorion a Phrifathrawon (CVCP). Ym 1976, cafodd ei recriwtio i redeg swyddfa wybodaeth newydd y brifysgol. Yn ei swydd, roedd Ray yn allweddol yn y gwaith o osod sylfeini yn y maes newydd o ddatblygu a chysylltiadau alumni a oedd yn datblygu yn y DU ar y pryd. Ym 1982, wrth baratoi at bedwar canmlwyddiant Caeredin, treuliodd Ray chwe wythnos mewn prifysgolion yn yr Unol Daleithiau a Chanada i weld sut oeddent yn mynd i’r afael â chysylltiadau cyhoeddus, cysylltiadau alumni a chodi arian. Arweiniodd drefniadau llwyddiannus dathliadau’r pedwar canmlwyddiant at ehangu swyddfa gwybodaeth Caeredin a phenodi Swyddog Alumni, un o'r penodiadau llawn-amser cyntaf o'r fath yn y wlad. Cododd apêl am arian ar gyfer y pedwar canmlwyddiant £440,000 ac arweiniodd hynny at sefydlu un o'r swyddfeydd codi arian modern cynharaf mewn prifysgol yn y DU. Roedd Ray yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Caeredin tan ei ymddeoliad yn 2002.
Bu hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu'r Council for the Advancement and Support of Education [CASE Ewrop] - cymdeithas ryngwladol gweithwyr proffesiynol ym maes alumni a marchnata – a bu’n gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CASE [Ewrop], gan dderbyn y wobr CASE Europe Frank Ashmore yn 2001 am ei wasanaeth i hyrwyddo addysg.
Roedd ei wraig Els, hefyd yn gyn-fyfyriwr ym Mangor, ei fab a’i merch-yng-nghyfraith yn bresennol yn y seremoni i weld Ray yn derbyn ei wobr a gyflwynwyd gyda dyfyniad gan Dr David Roberts, cyn Gofrestrydd Prifysgol Bangor.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Ray "Rwy'n falch iawn o gael fy enwi’n Alumnus y Flwyddyn, Prifysgol Bangor. Rwy’n falch iawn o’m cysylltiadau â Bangor ac mae'n fraint derbyn y wobr hon."
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017