Alumnus y Flwyddyn 2018
Bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ymgeiswyr ac yn cynghori'r Brifysgol ynglŷn â dyfarnu gwobr Alumnus y Flwyddyn.
Yn ystod yr wythnos raddio roedd Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi mai Gwilym Rees-Jones yw Alumnus y Flwyddyn 2018. Graddiodd Gwilym o Fangor yn 1963 gyda gradd mewn Mathemateg cyn cael Diploma Hyfforddiant Athrawon yn 1966. Yn ystod ei flwyddyn olaf ym Mangor, 1965-1966, bu Gwilym yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Ei gamp fwyaf oedd cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Grantiau'r Brifysgol yn cynnig creu cyfleusterau ac adeilad pwrpasol i Undeb y Myfyrwyr. Cafodd y cynnig ganmoliaeth wresog gan Charles Evans, yr Is-ganghellor ar y pryd, a chafodd y cynnig ei dderbyn. Defnyddiwyd yr adeilad hwnnw gan y Brifysgol am flynyddoedd hyd nes agor Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn ddiweddar.
Mae gwobr Alumnus y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau proffesiynol a phersonol ein graddedigion; ac yn tynnu sylw arbennig at y rhai sydd wedi dewis parhau â’u cysylltiad â'r Brifysgol a rhoi’n ôl iddi, naill ai drwy wasanaeth, haelioni, neu, yn achos Gwilym, y ddau.
Ar ôl gadael Bangor, ymunodd Gwilym â British European Airways fel Swyddog Ymchwil Gweithredol a chafodd ei ddyrchafu nes dod yn Gyfarwyddwr Cynllunio Gweithrediadau yng nghmwni British Airways. Dywed Gwilym mai'r cyfnod yn arwain at breifateiddio BA yn 1987 ac i mewn i'r 90au oedd cyfnod mwyaf cyffrous ei yrfa gyfan. Daeth gweithwyr yn gyfranddalwyr, roedd y cwmni’n broffidiol, a gwnaeth y cwmni enw da iawn iddo ei hun am arloesi a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid.
Cafodd Gwilym Rees-Jones ei gyfle mawr cyntaf yn 1987 pan benodwyd ef yn Rheolwr Cyffredinol yr Adran Eiddo. Dywed Gwilym mai yn ystod y cyfnod hwn yn BA y cafodd y llwyddiant y mae’n fwyaf balch ohono, sef cael caniatâd cynllunio ar gyfer y pencadlys newydd, gan ddarbwyllo'r Prif Fwrdd i gymeradwyo gwario £200m (yn arian 1990) i’w adeiladu, ac adfer safleoedd tirlenwi i greu parc cyhoeddus 250 erw i'r gymuned leol.
Yn 1994, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Project ar broject Terminal 5 Heathrow. Cymerodd ymchwiliad cynllunio Terminal 5 bedair blynedd, yr ymchwiliad hiraf yn hanes cynllunio, ond, dan ofal Gwilym, cafodd y cynlluniau eu caniatáu.
Yn 1998 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cynllunio Gweithrediadau, yn adrodd i aelod o'r Prif Fwrdd. Roedd yr adran hon yn ganolog i holl gynllunio tymor canolig a thymor byr y cwmni, gan gynnwys cyfleusterau maes awyr, systemau TG y maes awyr, amserlenni teithwyr a slotiau’r maes awyr, cynllunio'r gweithlu o ran criwiau awyr a'u hamserlenni gwaith, project Terminal 5, a gweddill yr adran Eiddo. Ar ôl gyrfa hynod lwyddiannus fe wnaeth Gwilym ymddeol yn 2002.
Er iddo raddio o Fangor dros 50 mlynedd yn ôl, mae Gwilym wedi parhau i ymwneud â'r Brifysgol. Mae wedi rhoi cymorth i fyfyrwyr presennol trwy gynnig sesiynau gyrfa ar sgiliau rheoli ac mae'n gyn-fyfyriwr ffyddlon a hael, sydd wedi cefnogi Cronfa Bangor yn rheolaidd ers nifer o flynyddoedd.
Daeth gwraig Gwilym, Janice, i’r seremoni i weld Gwilym yn derbyn y wobr a gyflwynwyd gan Yr Athro Paul Spencer.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd Gwilym: "Mae'n anrhydedd fawr ac yn gwbl annisgwyl. Rwyf yn edrych yn ôl ar fy mlynyddoedd ym Mangor gydag anwyldeb ac rwy'n teimlo fy mod wedi cael gyrfa wych yma, sydd wedi fy sefydlu am weddill fy mywyd, felly mae'n anrhydedd fawr i mi dderbyn y wobr!"
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018