Alys Conran Wedi’i Henwi’n Gymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl Y Gelli 2019-2020
DATGANIAD GAN Gŵyl Y Gelli
Mae’r nofelydd Alys Conran o ogledd Cymru wedi cael ei henwi’n dderbynnydd Cymrodoriaeth Ryngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli ar gyfer 2019-2020.
Ariennir y rhaglen Gymrodoriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n gyfle i ysgrifennydd o Gymru gymryd rhan mewn fersiynau o Ŵyl y Gelli ar hyd y flwyddyn yng Nghymru, Mecsico, Sbaen, Periw, Colombia a Croatia. Mae’n agored i unigolion creadigol eithriadol, uchelgeisiol a llawn dychymyg sy’n gweithio gyda’r ffurf gelfyddydol lenyddol, gan gynnig cyfle unigryw i ddatblygu gyrfa, ar yr un pryd â chynyddu proffil artistig Cymru yn rhyngwladol.
Mae ail nofel Conran, sef Dignity (Weidenfeld & Nicolson), a gyhoeddwyd yn ddiweddar, wedi cael clod mawr. Enillodd ei nofel gyntaf, sef Pigeon (Parthian), a ryddhawyd yn 2016, Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2017, Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Dewis y Bobl Wales Arts Review. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a’r rhestr hir ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Dewis yr Awduron. Mae ei barddoniaeth, straeon byrion, gwaith ffeithiol creadigol, traethodau creadigol, cyfieithiadau llenyddol a gwaith arall i’w gweld mewn amryw gylchgronau a detholiadau.
A hithau’n wreiddiol o ogledd Cymru, y Gymraeg a’r Saesneg yw ei mamieithoedd ac mae hi hefyd yn siarad Sbaeneg a Chatalaneg. Mae wedi gweithio fel gweithiwr ieuenctid, athrawes, ac yn y celfyddydau cymunedol, ac mae bellach yn Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Cristina Fuentes de la Roche, cyfarwyddwr rhyngwladol Gŵyl y Gelli: “Alys Conran yw un o’r ysgrifenwyr cyfoes mwyaf cyffrous sydd wrthi ar hyn o bryd. Rydym wedi mwynhau dathlu ei gwaith yng Ngŵyl y Gelli Cymru yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn teimlo’n freintiedig i wneud hynny’n rhyngwladol, gan gyflwyno darllenwyr newydd i’w hysgrifennu bywiog ym Mecsico, Sbaen, Periw, Colombia a Croatia. Mae profiad arbennig yn aros iddyn nhw.”
Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth, mae Conran yn ymuno â rhestr ddisglair o ysgrifenwyr o Gymru sy’n cynnwys Jon Gower, Tiffany Murray, Fflur Dafydd, Owen Sheers, Eurig Salisbury, Jay Griffiths, Jenny Valentine, a Chymrawd 2018-19 Dylan Moore, y mae ei gasgliad cyntaf o waith ysgrifennu teithio, sef Driving Home Both Ways, ar gael nawr.
Dywedodd Conran: “Mae’n gymaint o fraint a phleser i mi fod yn Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at gael sgyrsiau amlieithog, datblygu syniadau creadigol trawsddiwylliannol a rhannu ysbrydoliaeth yn y gwyliau gwych hyn. Ond ni fyddaf yn anghofio o ble rwy’n dod, a byddaf yn mynd â darn o lechen Gymreig i bob man, i anrhydeddu’r rôl a gyflawnodd lechi ar un adeg wrth gefnogi ysgrifennu a llythrennedd ar draws y byd.”
Dywedodd Moore: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi teimlo’n hirach o lawer na hynny, gan fod pob un o’r gwyliau wedi ehangu fel y goeden yn logo newydd yr ŵyl: darganfyddiadau llenyddol newydd; profiadau teithio rhyfeddol; ffrindiau newydd gwych; yn ogystal â’r hadau ar gyfer cymaint o brosiectau ysgrifennu i ddod. Ni waeth am yr hwb i’m gyrfa, Cymrodoriaeth Gŵyl y Gelli yw un o uchafbwyntiau fy mywyd.”
I ddechrau, bydd Conran yn teithio i Ŵyl y Gelli Querétaro ym Mecsico ar ddechrau mis Medi, ac yna Segovia yn Sbaen yn ddiweddarach y mis hwnnw; Arequipa, Periw ym mis Tachwedd; Cartagena, Colombia ym mis Ionawr 2020, a Croatia ym mis Mehefin 2020.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019