“Am wasanaeth wrth fynd i’r afael â thlodi tramor ac am wasanaeth i addysg yn Derby”
Mae Dr Daljit Singh Virk, Cymrawd Ymchwil Uwch gyda Phrifysgol Bangor wedi ei ddewis i dderbyn anrhydedd yr OBE.
Mae’r anrhydedd yn cydnabod effaith cyfraniad gwyddonol Dr Virk fel genetegydd a bridiwr planhigion yn ogystal â’i gyfraniad blaenllaw wrth sefydlu Ysgol Gynradd Akaal yn Derby yn 2015, ysgol sy’n dilyn crefydd Sikh a sefydlwyd fel ysgol rydd o dan y Ddeddf Academïau.
Mae Dr Virk wedi bod wrth wraidd un o brojectau Prifysgol Bangor sydd wedi cael yr effaith fwyaf ac sydd wedi cyfrannu at wella diogelwch bwyd a bywoliaeth miloedd o gartrefi mewn rhai o wledydd tlotaf y byd.
Fel genetegydd a bridiwr planhigion sydd ag enw rhyngwladol, defnyddiodd Dr Virk dechnegau newydd ac arloesol (bridio planhigion dethol ar gyfer cleientiaid, dethol drwy gymorth marciau a chynhyrchu hadau ar sail cymuned) i wella cnydau grawn yn Ne Asia ac Africa o dan brojectau Adran Datblygu Ryngwladol Llywodraeth y DU (DFID), Sefydliad Rockefeller ac Irish Aid.
Ffermwyr tlawd ymylol sydd yn ffermio priddoedd sydd yn isel o ran eu ffrwythlondeb oedd targed ei waith. Er enghraifft, yn India fe ddatblygodd hanner dwsin o rywogaethau reis, gyda dwy rywogaeth reis Ashoka yn cyrraedd 2.8 miliwn o gartrefi erbyn 2008. Wedi hyn fe gynhyrchwyd a dosbarthwyd miliynau o dunelli o hadau i lawer mwy o deuluoedd.
O ganlyniad i’r rhywogaethau newydd, roedd ffermwyr yn cynaeafu 46% mwy o rawn a oedd o ansawdd uwch. Roedd cynhaeafu cynharach hefyd yn eu darparu gyda mwy o fwyd at y ‘tymor newynog’. Mae’r ddwy rywogaeth reis ar gyfer yr ucheldir wedi gwella diogelwch bwyd a bywoliaeth ar gyfer miliynau o ffermwyr tlawd. Datblygodd hefyd rywogaethau India corn a ffacbys ar gyfer ffermwyr tlawd yn India.
Yn yr un modd, yn Ethiopia, fe ganfu nifer o rywogaethau o wenith, India corn a teff (grawn lleol) a fyddai’n addas ar gyfer tyddynwyr tlawd. Mae dau o’i fathau o wenith sydd wedi eu rhannu yn rhanbarth Tigray wedi dod â budd i gannoedd ar filoedd o ffermwyr, gyda mwy o rawn bwyd yn lliniaru ar dlodi.
Llongyfarchwyd Dr Virk ar ei anrhydedd gan Michael Wilson, cyn-ymgynghorydd DFID a fu’n rheoli project DFID yn India, a ddywedodd:
“Rwy’n hapus iawn drosoch. Mae hon yn anrhydedd haeddiannol. Duw â ŵyr faint o bobl yr ydych wedi eu cynorthwyo i symud allan o dlodi yn yr ardaloedd DFID a thu hwnt.”
Dywedodd yr Athro John Witcombe, sydd wedi cydweithio’n agos efo Dr Virk dros sawl blwyddyn, fod y newyddion yn:
“gydnabyddiaeth haeddiannol ac yn rhodd Blwyddyn Newydd wych.”
Meddai Morag McDonald, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Naturiol:
“Mae hyn yn newyddion gwych ac yn haeddiannol dros ben.”
Mae’r Anrhydedd hefyd yn cydnabod gwaith Dr Virk i greu mwy o leoedd ysgol gynradd a darparu addysg ardderchog sy’n seiliedig ar werthoedd yn ardal Derby. Mae Ysgol Gynradd Akaal oll-gynhwysol yn cyfuno rhinweddau Sikh â gwerthoedd Prydeinig. Dr Virk yw Cadeirydd sefydlol y Llywodraethwyr ac bu’n arwain y tîm a blediodd wrth Adran Addysg y Llywodraeth i adeiladu ysgol newydd yng nghanol ardal dlawd yn Derby.
Gweler hefyd:
Math newydd o reis, Ashoka, yn dod â diogelwch bwyd i filiynau
Gwella bywoliaethau dros 5m o deuluoedd yn India a Nepal
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2019