Annog myfyrwyr Bangor i gefnogi Gwynedd i frwydro Covid-19
Datganiad i'r Wasg Cyngor Gwynedd Council
Wrth i Brifysgol Bangor â’r gymuned ehangach groesawu myfyrwyr yn ôl i’r ardal ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, mae Cyngor Gwynedd yn annog myfyrwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r rheolau Covid-19 diweddaraf.
Drwy ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae gan fyfyrwyr rôl allweddol i gadw eu hunain, eu ffrindiau â’r gymuned ehangach yn ddiogel mewn cyfnod allweddol pan mae niferoedd yr achosion o Covid-19 unwaith eto yn anffodus ar gynnydd.
Dros y misoedd diwethaf, mae Prifysgol Bangor wedi gosod mesurau mewn lle i alluogi fod staff a myfyrwyr yn cydymffurfio gyda chyfyngiadau Covid yn eu hadeiladau, ond mae’n bwysig fod unigolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru mewn siopau a mannau cyhoeddus yn y gymuned ehangach.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae myfyrwyr yn rhan ganolog o’r gymuned ym Mangor, a bydd eu dychweliad yn cynnig hwb i’r economi’r ddinas yn y cyfnod anodd hwn.
“Fodd bynnag, mae dechrau’r tymor yn wahanol iawn i’r blynyddoedd a fu, ac mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i chwarae ein rhan i atal lledaeniad yr haint.
“Gydag achosion Coronafeirws ar gynnydd, a chyfyngiadau lleol mewn lle mewn nifer o leoliadau ar draws y DU, mae’n bwysicach nag erioed fod y gymuned myfyrwyr â’r gymuned ehangach yn tynnu gyda’i gilydd i osgoi sefyllfa o’r fath yma yng Ngwynedd.
“Fel rhan o’r ymdrech ar y cyd, mae swyddogion o’n tîm gwarchod y cyhoedd wedi bod mewn trafodaeth gyda Phrifysgol Bangor i gynnig cymorth a chyngor fel bo’r angen. Mae ein gwasanaeth trwyddedu hefyd wedi bod allan gyda’n partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru yn siarad gyda pherchnogion tafarndai yn ardal Bangor i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf fel y gallant gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel.”
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Wrth inni ddychwelyd i addysgu ar y campws, rydym yn ymwybodol iawn o’n rôl yn creu'r amgylchedd mwyaf diogel posibl i'n myfyrwyr, i staff ac i'r gymuned ehangach. I'r perwyl hwn, mae’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr yn gwneud Ymrwymiad Cymunedol i weithio gyda'i gilydd trwy'r cyfnod hwn.
“Mae'r Brifysgol wedi bod yn cyfathrebu gyda myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd ynglŷn â'r hyn y gallant ei ddisgwyl a beth yw eu cyfrifoldebau nhw i'w gilydd, i’r Brifysgol ac i'r gymuned leol. Byddwn yn parhau i bwysleisio canllawiau Covid-19 trwy gydol ein rhaglen Groeso a chyhyd ag y bydd angen, a byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae eu rhan.
“Yn naturiol, bydd pethau'n wahanol iawn eleni, ond ein bwriad o hyd yw darparu profiad prifysgol gwych i fyfyrwyr drwodd a thro. Rydym yn ddiolchgar bod gennym berthynas waith gref rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a gyda'n partneriaid cymunedol yng Nghyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac eraill.”
Mae effeithiau’r Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i ni gyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn rheolau ac ymarfer da:
- parhau i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr;
- golchi eich dwylo’n rheolaidd;
- gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus dan-dô megis siopau neu drafnidiaeth gyhoeddus;
- dim cyfarfodydd o fwy na chwe pherson tu fewn;
- os ydych yn cwrdd â phobl o aelwyd arall, sydd ddim yn ran o’ch aelwyd estynedig, gwnewch hynny y tu allan;
- dilynwch yr arwyddion â’r cyfarwyddiadau sy’n eu lle mewn siopau, tafarndai ayb.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Griffith: “Rydym yn annog pawb i ddilyn cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru yn llawn - peidiwch ag anghofio i fynd â’ch masg gyda chi pan fyddwch yn picio allan, a gwneud yn siŵr ei fod yn gorchuddio eich ceg a’ch trwyn os ydych yn mynd fewn i siop neu leoliad arall.
“Dilynwch y rheolau ymbellhau cymdeithasol tra yn y siop neu leoliad cyhoeddus dan-dô os gwelwch yn dda - fyddai peidio gwneud hynny yn arwain i’r Cyngor weithredu yn erbyn y busnesau hynny.
“Fel Cyngor, nid ydym yn cymryd y camau hyn yn ysgafn, felly rydym yn annog perchnogion busnesau i gymryd y camau priodol a gofyn i gwsmeriaid ddilyn y rheolau. Rydym hefyd yn gofyn i gwsmeriaid barchu staff unrhyw sefydliad fyddai’n gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb neu unrhyw ganllaw arall.”
Arhoswch gartref a threfnwch brawf os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwydydd estynedig symptomau. Os byddwch yn cael cais gan y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu i hunan-ynysu oherwydd eich bod wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd wedi profi’n bositif am yr haint, mae’n bwysig eich bod yn cydymffurfio er lles y gymuned gyfan.
Dilynwch ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru/coronafeirws.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2020