Annog myfyrwyr i bacio llai
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r British Heart Foundation yn eu hymgyrch diweddaraf.
Eleni mae Campws Byw, Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor a’r Lab Cynaliadwyedd yn ymwneud â menter elusennol i atal gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a hefyd i godi arian ar gyfer y British Heart Foundation.
Mae Gormod i’w Bacio yn ymgyrch i gael myfyrwyr i roi eu heitemau diangen i’r BHF ar ddiwedd y flwyddyn sy’n rhedeg o rŵan tan ddiwedd mis Mehefin pan fydd myfyrwyr yn symud o’i neuaddau. Bydd myfyrwyr yn gallu cyfrannu eitemau and ydynt eu hangen mewn blychau casglu sydd wedi eu lleoli mewn mannau amrywiol o amgylch pentref neuaddau'r Santes Fair a Ffriddoedd.
Gall myfyrwyr gyfrannu dillad diangen, esgidiau, gemwaith, llyfrau, bric-a-brac, CDs, DVDs, eitemau trydanol bach ac eitemau bwyd heb eu hagor.
Meddai Deirdre McIntyre, Rheolwr Bywyd Preswyl Prifysgol Bangor: “Rydym yn falch ein bod yn cydweithio gyda BHF gan helpu i godi arian hanfodol i barhau â’r gwaith achub bywyd mae BHF yn ei wneud a hefyd i leihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn gan fyfyrwyr prifysgol.
Meddai Amanda Purkiss, Cynhyrchydd Stoc Rhanbarthol, British Heart Foundation: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor ar yr ymgyrch ‘Gormod i’w Bacio’. Bydd 100% o’r elw o’r rhoddion gan fyfyrwyr yn mynd i mewn i’r frwydr yn erbyn clefyd y galon ac yn ariannu ymchwil achub bywyd y BHF.
“Clefyd y galon yw’r clefyd sy’n lladd y mwyaf o bobl yn y DU, mae’n chwalu bywydau gormod o blant, rhieni a neiniau a theidiau - gallwch ymuno â’r frwydr ar gyfer pob curiad calon drwy glirio a rhoi'r pethau hynny nad ydych eu heisiau i’r elusen”.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2016