Anrhydeddu cynllun mentora ieithoedd mewn ysgolion
Mae Cwpan Threlford clodfawr wedi’i ddyfarnu gan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion i gynllun mentora unigryw a ddyluniwyd i annog pobl ifanc yng Nghymru i ddysgu ieithoedd.
Mae Cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern, a arweinir gan Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o'i chynllun Dyfodol Byd-eang sy'n ceisio cynyddu nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru. Mewn partneriaeth â phrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor, mae'r prosiect wedi mabwysiadu dull cenedlaethol o gynyddu dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol a hyrwyddo dysgu ieithoedd ar gyfnodau allweddol.
Mae Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion yn dyfarnu Cwpan Threlford bob blwyddyn i unigolyn, sefydliad neu brosiect sydd wedi annog eraill i ddysgu iaith.
Eleni, yn dilyn enwebiadau gan werthuswr allanol, Teresa Tinsley a chydlynydd consortiwm Ieithoedd Tramor Modern De-ddwyrain Cymru, Sioned Harold, cyflwynwyd Cwpan Threlford i’r Cynllun Mentora gan Noddwr Brenhinol Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion, y Tywysog Michael o Gaint GCVO, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghymdeithas y Gyfraith yn Llundain.
Mae’r cynllun wedi cael llawer o lwyddiant ers iddo ddechrau yn 2015, gan weithio gyda dros chwarter yr holl ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth wedi’u hyfforddi fel mentoriaid a hyfforddwyr. Wedi hynny, caiff y myfyrwyr-fentoriaid eu partneru ag ysgolion yn eu priod feysydd, a’u paru â mentoreion Cyfnod Allweddol 3. Mae myfyrwyr-fentoriaid yn cael sesiynau mentora a hyfforddi wythnosol ar gyfer eu mentoreion sy’n ddisgyblion, mewn grwpiau bach ar draws y flwyddyn academaidd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cynllun mentora wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion partner sydd wedi nodi cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd ar lefel TGAU, yn ogystal â mwy o gymhelliant i barhau i ddysgu ieithoedd ac ystyried mynd i’r brifysgol.
Yn ôl Teresa Tinsley, a enwebodd y cynllun: “Mae hwn yn brosiect lle y bu pawb ar eu hennill. Mae wedi ehangu gorwelion ac adeiladu uchelgais mewn disgyblion. Ar yr un pryd, mae wedi rhoi sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad y gall myfyrwyr eu defnyddio yn eu bywydau gwaith. Mae bob amser yn braf gweld prifysgolion yn cydweithio ag ysgolion, ac roedd y prosiect hwn wedi'i dargedu a’i drefnu’n arbennig o dda. Mae mor braf gweld hynny’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.”
Yn ôl yr Dr Anna Saunders, Pennaeth Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor: “Mae hwn yn llwyddiant gwych, sy'n talu teyrnged i waith ac ymroddiad mentoriaid myfyrwyr o'r pedair prifysgol yng Nghymru. Diolch i gyllid dilynol, rydym eisoes yn gweithio ar ddatblygu'r cynllun ymhellach eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at ennyn brwdfrydedd mewn cenhedlaeth newydd o ieithyddion."
Yn ôl Faye Hutton, Mentor Prifysgol Bangor: “Mae'r wythnosau cyntaf o fentora eleni eisoes wedi bod yn werthfawr iawn. Mae'r disgyblion wedi bod yn hynod o gadarnhaol ac maent yn cymryd diddordeb mewn pob gweithgaredd. Rwy'n edrych ymlaen at ddod i wybod mwy am y myfyrwyr wrth iddynt ddysgu mwy am fanteision ieithoedd.“
Yn ôl Rubén Chapela-Orri, Cydlynydd Adrannol y Prosiect ym Mangor: “Rydym yn gyffrous iawn am y wobr hon. Rydym yn arbennig o falch o'n mentoriaid myfyrwyr brwdfrydig, sy'n gwneud gwaith gwych yn ysgogi disgyblion ar draws gogledd Cymru.”
Yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Rydym am i bob dysgwr allu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliannau eu hunain, yn ogystal â rhai eraill. Mae Cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn ffordd ardderchog o gyflawni hyn, ac rwy’n falch bod Prifysgol Caerdydd wedi cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu am arwain ar y prosiect hwn fel rhan o'n Cynllun Dyfodol Byd-eang."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017