Antur a Thu Hwnt: Cynhadledd Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru, 2018
Wrth i rai sy'n chwilio am wefr anelu am Ogledd Cymru, 'canolbwynt' twristiaeth antur, bydd Canolfan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor a Go North Wales yn cynnal cynhadledd flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn Pontio ar 6 Rhagfyr. Teitl y gynhadledd yw "Antur a Thu Hwnt/Adventure and Beyond".
Mae'r prif siaradwyr yn cynnwys yr Arglwydd Ellis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, y cyflwynydd teledu, Kate Humble, yr awdur a siaradwr cyhoeddus, John Thackara, yn ogystal ag Ash Dykes, o Ogledd Cymru, yr anturiaethwr ac athletwr eithafol a ddaeth i amlygrwydd drwy fynd ati i gerdded ei hun ar hyd Afon Yangtze. Bydd ef yn ymuno drwy gynhadledd fideo.
"Mae Gogledd Cymru eisoes yn gyrchfan amlwg iawn ar gyfer gwyliau antur" meddai John Thackara. "Nod y digwyddiad yma yw cysylltu ymwelwyr ag asedau cymdeithasol, diwylliannol a naturiol Gogledd Cymru mewn ffyrdd newydd".
Disgrifiwyd Thackara gan Business Week fel "un o'r lleisiau mawr ar gynaliadwyedd" a bydd ei sgwrs yn rhoi sylw i deithiau cerdded bioamrywiaeth, teithiau dysgu treftadaeth, e-amgueddfeydd, llwybrau bwyd, clybiau cod a Maker Camps - ac enghreifftiau eraill o'r hyn y mae'n ei alw'n "y lletygarwch newydd".
Dywedodd Jim Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru:
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y gynhadledd yma. Rydym wedi ei chynllunio i ganolbwyntio ar dair thema allweddol - lles, darganfod ac arloesi - ac wedi dwyn ynghyd gyflwynwyr o fri a fydd yn ennyn diddordeb eu cynulleidfa. A lle gwell i gynnal cynhadledd ar arloesi nag yn Arloesi Pontio; un o'r llefydd mwyaf arloesol yng Ngogledd Cymru. '
Bydd cynadleddwyr a ddaw i Antur a Thu Hwnt hefyd yn trafod syniadau mewn grwpiau amlddisgyblaethol bach. Pwnc allweddol fydd dimensiynau lluosog lles ac iechyd, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer y diwydiant lles sy'n werth tua $ 4.2 triliwn doler yn fyd-eang.
"Bydd y syniadau gorau am dwristiaeth lles a gaiff eu cynnig yng ngweithdai'r gynhadledd yn cael eu datblygu yn yr her Menter drwy Ddylunio eleni" meddai Andy Goodman, cyfarwyddwr Arloesi Pontio.
"Mae'r rhaglen ddeg wythnos hon yn hynod effeithiol wrth droi syniadau cychwynnol yn brototeipiau byw sy'n agos at fod yn barod i'r farchnad. Byddwn yn cysylltu arbenigwyr yn y maes a thrigain o fyfyrwyr - o chwe ysgol - gyda chwmnïau lleol i ddatblygu syniadau cynnyrch newydd."
Yn y gynhadledd, bydd Prifysgol Bangor hefyd yn disgrifio dau gwrs graddr newydd a fydd gyda'i gilydd yn llywio a datblygu arloesedd o fewn Twristiaeth Lles.
Meddai Jamie Macdonald, Pennaeth Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor:
"Bydd ein gradd newydd mewn Gwyddor Chwaraeon Antur yn cymhwyso'r ymchwil gyfoes orau ym maes Gwyddor Chwaraeon a Pherfformio Elît at y diwydiant chwaraeon antur sy'n ffynnu yn Eryri erbyn hyn."
Ychwanegodd Andy Goodman: "Gan bontio rhwng ymchwil academaidd a diwydiant, bydd myfyrwyr sy'n dilyn ein cwrs Meistr newydd mewn Dylunio Perthynol yn gweithio gyda gwyddonwyr chwaraeon antur a chwmnïau twristiaeth i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018