Anturiaethau Amy yn Ffrainc
Mae’r profiad cafodd myfyrwraig o Brifysgol Bangor wrth fyw a gweithio yn Ffrainc wedi helpu iddi benderfynu ar ei llwybr wedi ei gradd.
Y llynedd bu Amy Mason, 21, o Ferthyr Tydfil, yn gweithio mewn dwy ysgol fel athrawes Saesneg am flwyddyn, mewn tref o’r enw Boulogne Billancourt sydd ar gyrion Paris.
Cafodd hi ei derbyn ar gynllun y ‘British Council’ i fod yn athrawes yn dysgu Saesneg fel ail iaith. Roedd hi’n dysgu hyd at 20 o blant blynyddoedd 7 i 10 am 12 awr yr wythnos, felly roedd rhaid iddi drefnu a chynllunio'r gwersi ei hun.
Esboniodd Amy am ei chyfnod o ddysgu ym Mharis:
“Gan fod y ddwy ysgol ar gyrion Paris, roedd hi'n waith caled ar adegau gan fod y plant yn dod o wahanol gefndiroedd cymdeithasol gwahanol, ac yn wahanol i ddosbarthiadau yng Nghymru, mae'r mwyafrif o ddosbarthiadau yn ddosbarthiadau cymysg, o ran gallu academaidd, felly roedd cynllunio at wersi yn gallu bod yn anodd iawn….Roedd athrawon yr un ysgol yn ifanc iawn - ac felly roedd hi'n ddigon hawdd gwneud ffrindiau yna, ac os oedd gen i broblem basa un ohonyn nhw yn gallu helpu. ”
Ychwanegodd Amy, sydd ar ei blwyddyn ddiwethaf yn astudio Ffrangeg a Chymraeg:
“Ges i flwyddyn arbennig yn dysgu, a dwi mor falch nes i ddewis dysgu yn lle mynd i'r brifysgol yna...O’n i'n byw gyda theulu yna, felly roedd gen i ddigon o gyfle i ymarfer fy Ffrangeg, hyd yn oed os o’n i'n siarad Saesneg yn yr ysgol. Roedd dau fachgen bach yn y teulu ac roedden nhw wrth eu boddau yn treulio amser gyda fi - tua unwaith bob pythefnos baswn i'n mynd â nhw i'r sinema neu allan am fwyd… roedden nhw hefyd yn gwahodd fi i fynd i ffwrdd efo nhw. ”
Yn ei amser rhydd pan nad oedd hi’n dysgu, aeth Amy i ymweld ag amryw o lefydd gwahanol o gwmpas Ffrainc ac i wlad Belg.
“Ges i gyfle i deithio o gwmpas Ffrainc, dydw i ddim yn siwr gaf i'r cyfle i neud cymaint o deithio byth eto. Roedd hi'n grêt cael y cyfle i wneud gymaint o ffrindiau - a dwi'n gwybod oherwydd eu bod nhw wedi profi amseroedd da a drwg y flwyddyn dramor, ac wedi helpu fi drwy'r amseroedd caled, eu bod nhw yn ffrindiau am byth. ”
Mae hi'n sicr bod ei blwyddyn dramor yn amser a dreulir yn dda, sy wedi ei newid fel person ac wedi ei helpu i benderfynu ar yrfa mewn addysgu yn y dyfodol:
“Rydw i'n meddwl bod y profiad wedi newid fi fel person - doeddwn i ddim yn hyderus iawn cyn i fi fynd, a fi oedd y person oedd yn dweud 'na, sai'n gallu neud hynna' - mae hi wedi gwneud i fi sylwi mai'r unig berson sydd yn eich stopio chi rhag gwneud rhywbeth yw chi eich hun. Rydw i'n gwneud cais ar gyfer cyrsiau TAR ar hyn o bryd, ac felly mae gallu dweud fy mod i wedi dysgu dosbarthiadau o blant ysgol uwchradd mewn ardal mor gymysg (o ran dosbarthiadau cymdeithasol a gallu academaidd) a Pharis yn rhywbeth gwych i roi ar y datganiad personol.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2014