Ap defnyddiol i bobol efo dementia
Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd i gefnogi datblygiad ac effeithiolrwydd ‘Book of You’, sef ap sy’n cael ei groesawu fel rhywbeth sydd â’r potensial i chwyldroi therapi atgofion yn achos pobol efo dementia.
Gwneir llawer o ddefnydd o’r broses ‘hel atgofion’ ymysg pobol efo dementia, gyda sesiynau atgofion fel rheol yn defnyddio eitemau a lluniau o’r gorffennol i sbarduno atgofion a sgyrsiau, neu greu llyfr lloffion gyda lluniau a hanesion bywyd yr unigolyn.
Mae ‘Book of You’ yn mynd â syniad y llyfr un cam ymhellach gan roi’r sesiynau a llyfrau hynny ar ddyfais symudol. Gyda hynny gellir cynnwys sain a lluniau symudol, yn ogystal â ffordd hawdd o greu’r cynnwys i bob unigolyn.
Mae datblygwyr yr ap, Tom a Kathy Barham, wedi creu cwmni menter cymdeithasol er mwyn datblygu a gwerthu’r ap, efo unrhyw elw yn mynd yn ôl mewn i’r fenter.
Roeddynt yn awyddus i gael barn Yr Athro Bob Woods o’r Brifysgol am yr ap gan ei fod yn arbenigwr ym maes gofalu am pobol â dementia.
Ystyrir yr Athro Bob Woods, sy’n seicolegydd clinigol, yn un o’r prif arbenigwyr ym maes gofal dementia ac mae wedi bod yn ymchwilio i therapi hel atgofion ers sawl blwyddyn.
“Beth mae’r ap yn ei wneud yw canolbwyntio ar yr hyn y mae nifer o bobol efo dementia yn medru ei wneud, sef defnyddio’u cof tymor-hir. Wrth rannu’r atgofion yna, mae modd cynnal ymdeimlad o hunaniaeth yr unigolyn efo dementia, a hefyd cynorthwyo eraill sydd yn edrych ar eu hôl, boed yn deulu, cyfeillion neu ofalwyr. Gallant hwy yn eu tro ddysgu am yr unigolyn a chael mwy o empathi â hwy, drwy rannu hanes eu bywyd.”
Wedi iddynt siarad â’r Athro Bob Woods, mae’r cwpl o Rhuthun wedi dechrau ar bartneriaeth KESS efo’r Brifysgol. Mae’r KESS yn eu galluogi i benodi aelod cysylltiol KESS i weithio ar ddatblygu project penodol efo’r cwmni, dan arweiniad arbenigwr academaidd, tra bydd hefyd yn astudio am PhD.
“Roeddem mor gyffrous wrth dderbyn cais am y swydd gan Laura O’Philbin. Ni allai ei CV fod wedi bod yn fwy addas, ac rydym yn hapusach fyth rŵan ei bod hi’n ein helpu ni. Mae’r KESS yn ein galluogi i fanteisio ar arbenigedd na fyddai ar gael i ni mewn unrhyw ffordd arall,” meddai Tom Barham.
Gyda chefndir mewn seicoleg, mae Laura wedi gweithio efo pobol sy’n treialu’r ap mewn nifer o gartrefi gofal. Mae eu hadborth eisoes wedi arwain at welliannau cyn lansio’r cynnyrch.
Bydd Laura rŵan yn gwneud gwerthusiad ansoddol o’r ap a pha mor ddefnyddiol ydyw i’r unigolion gyda dementia ac i’r rhai sy’n gofalu amdanynt a’r teuluoedd.
Esbonia Laura: “Gan fod hwn yn wasanaeth newydd, mae’n bwysig hel gwybodaeth ac adborth ansoddol gan ddefnyddwyr cyn dechrau ar astudiaethau meintiol mwy.”
“Bydd project KESS yn rhoi data gwerthfawr i Book of You gan eu galluogi i wybod i sicrwydd am effeithlonrwydd eu cynnyrch, a’r budd i’r defnyddwyr.”
Ychwanegodd Tom Barham: “Roeddem yn awyddus i ddatblygu rhywbeth a fyddai o werth i bobol - os nad ydy o werth yna does dim gwerth ei wneud. Ein nod yw creu model y gall eraill ei efelychu. Rydym eisiau i’n aps gael dylanwad cadarnhaol ar gymaint o bobol â phosib, p’un a ydynt yn eu defnyddio eu hunain neu gael cymorth eraill i wneud hynny, neu os ydynt yn cael yr ap yn ddefnyddiol i ymwneud yn well efo’r bobol y maent yn gofalu amdanynt.”
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Laura O’Philbin dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. . Fe'i cyllidir KESS yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2015, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015