Ar frig y dosbarth: Cydnabod Annabelle yn un o’r myfyrwyr gorau yn y gyfraith yn y DU
Mae myfyrwraig yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth genedlaethol i ganfod y myfyriwr israddedig gorau yn y Gyfraith.
Mae Annabelle Joy, o Crewe, wedi curo llawer o ymgeiswyr eraill i gyrraedd y 10 olaf yng nghystadleuaeth Target Jobs i ganfod Myfyriwr Israddedig Gorau’r Flwyddyn yn y Gyfraith, a noddir gan Mayer Brown, un o brif gwmnïau cyfreithiol y byd.
Bydd yr enillydd, a gyhoeddir mewn seremoni wobrwyo sydd i’w chynnal yn Llundain ddiwedd Ebrill, yn ennill iPad a chynllun gwyliau mawreddog am dair wythnos gyda Mayer Brown – anrhydedd i unrhyw un sy’n awyddus i weithio fel cyfreithiwr.
“Pan gymerais ran yn y gystadleuaeth, fyddwn i fyth wedi rhagweld y byddwn yn mynd mor bell,” meddai Annabelle, 20 oed, sy’n astudio ar raglen LLB Bangor yn y Gyfraith. “Rwy’n hynod o falch o’r ffaith fy mod wedi llwyddo i gyrraedd y deg uchaf, ac wedi cynhyrfu’n lân ynglŷn â’r rownd derfynol!”
Anogwyd y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Babyddol St Thomas More, Northwich, i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan Dr Yvonne McDermott Rees, sydd wedi’i chefnogi trwy gydol y broses. Mae hi’n rhoi clod i’w darlithwyr am ei llwyddiant: “Un o’r meini prawf ar gyfer cystadlu yw bod disgwyl ichi ennill 2:1 neu uwch, ac mae’r addysgu yn Ysgol y Gyfraith wedi rhoi cyfle imi gyrraedd y safon hon hyd yma yn fy astudiaethau. Mae hyn i’w briodoli i natur gefnogol a hynaws y staff, yn ogystal â dosbarthiadau o faint bach.”
Roedd y drefn ymgeisio lem yn gofyn i’r cystadleuwyr ateb tri chwestiwn a osodwyd gan Mayer Brown, a sefyll profion ar-lein mewn barnu sefyllfaoedd, rhesymu casgliadol a holiadur ynglŷn â phersonoliaeth alwedigaethol. Ar ôl ennill ei lle yn y 35 uchaf, dewiswyd Annabelle wedyn gan Mayer Brown yn un o’r 10 i gyrraedd y rownd derfynol, a wahoddwyd i gyd yn ddiweddar i swyddfeydd y cwmni yn Llundain ar gyfer eu her olaf: traddodi 10 munud o gyflwyniad ar hanes diweddar ar y newyddion.
“Dewisais gyflwyno ar benderfyniad diweddar y DU i ddod yn aelod sefydlol arfaethedig o Fanc Buddsoddi Isadeiledd Asia, a’r effaith y gallai’r penderfyniad hwn ei chael ar y sector cyfreithiol ac, yn fwy penodol, ar Mayer Brown”, meddai Annabelle, sydd â’i bryd ar weithio mewn cwmni cyfreithiol yn y Ddinas. “Ar ôl y cyflwyniadau, cafwyd cyfle i rwydweithio â’r rhai eraill oedd yn y rownd derfynol ac â chyfreithwyr o’r cwmni. Roedd hyn yn ddefnyddiol, am imi gael cyngor ar sut i amlygu fy ngheisiadau am gontractau hyfforddiant a dysgu am y llwybrau gwahanol yr oedd y cyfreithwyr wedi’u cymryd i gyrraedd eu swyddi presennol. Yn gyffredinol, bu’r diwrnod yn brofiad gwych, ac rwy’n edrych ymlaen yn awr at weld pawb arall yn y seremoni wobrwyo.”
Roedd Dr Yvonne McDermott-Rees, darlithydd yn y Gyfraith, wrth ei bodd ynglŷn â llwyddiant Annabelle. “Mae Annabelle yn fyfyrwraig eithriadol ac yn llawn haeddu gwobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn yn y Gyfraith, 2015 yn Ebrill! Mae cyrraedd y cam hwn yn y gystadleuaeth wedi rhoi cyfle iddi rwydweithio â rhai o gyfreithwyr gorau’r DU, yn ogystal â phrif gyfreithwyr y dyfodol, a bydd hyn yn sicr o’i gwneud yn fwy cyflogadwy – rhywbeth a brisiwn yn uchel iawn yma yn Ysgol y Gyfraith, Bangor.”
Bydd Annabelle a’r rhai eraill sydd yn y rownd derfynol gyda hi yn cael gwybod pwy yw’r enillydd mewn seremoni grand sydd i’w chynnal yn Canary Wharf ar 24 Ebrill. Am fwy o fanylion am y gystadleuaeth, ewch i http://undergraduateoftheyear.com/law.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015